'Methiannau llywodraethu yn arwain at ofal iechyd ail-radd yng Nghymru' meddai Plaid Cymru
Byddai Plaid Cymru yn newid y ffordd mae’r gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg er gwell
Mae llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi beirniadu sut mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei redeg dan Lafur, ac yn dweud y bydd Plaid Cymru yn newid llywodraethu’r gwasanaeth iechyd mwyn gwella canlyniadau i gleifion ac i ddiogelu dyfodol y gwasanaeth.
Mae’r adroddiad a chomisiynwyd gan Mr ap Gwynfor, ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’, yn dweud bod llywodraethu ac atebolrwydd yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd yn “gynhenid ddryslyd, yn rhy gymhleth ac yn niweidiol i gydweithio systematig.”
Mae’r adroddiad wedi nodi sawl diffyg ac yn cynnig y diwygiadau canlynol i gryfhau’r gwasanaeth iechyd:
- Nodau, Blaenoriaethau a Chynllunio: symleiddio cynllunio gofal iechyd a sicrhau targedau mwy realistig a chyflawnadwy;
- Rolau ac Atebolrwydd: gwella atebolrwydd drwy ailddiffinio cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG i atal Gweinidogion rhag micro-reoli'r gwasanaeth iechyd;
- Gweithio mewn Partneriaeth: gweithio'n agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol drwy rannu adnoddau yn effeithlon;
- Gallu a Chapasiti: cynyddu gwybodaeth arbenigol am lywodraethu gofal iechyd yn y gwasanaeth sifil i wella polisïau a darpariaeth iechyd y cyhoedd;
- Mesur a Rheoli Perfformiad: mwy o gasglu data ar berfformiad y gwasanaeth iechyd a meini prawf cliriach ar gyfer mesurau uwch-gyfeirio;
- Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chleifion: grymuso llais y claf a hyrwyddo diwylliant o groesawu sylwadau a chwynion i wella profiad cleifion a thryloywder cyhoeddus;
- Diwylliant: creu rheolau safonol ar gyfer uwch arweinwyr y GIG i sicrhau bod trefniadau atebolrwydd yn cael eu bodloni.
Wrth siarad cyn lansio'r adroddiad ddydd Mawrth 19 Tachwedd 2024, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS:
"Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno nad yw'r gwasanaeth iechyd fel y dylai fod. Ni ddylai pobl orfod aros blynyddoedd am driniaeth neu ei chael hi'n anodd cael apwyntiad gyda’r meddyg teulu, ac ni ddylai ambiwlansys orfod aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys am oriau ar ben.
"Er gwaethaf y ffaith fod cyllid i’r gwasanaeth iechyd yn cyfrif am hanner cyllideb gyfan Lywodraeth Lafur Cymru, nid yw'n cael ei ddefnyddio'n strategol ac nid yw'r gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg yn effeithlon chwaith.
"Gyda phob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru dan rhyw fath o statws ymyrriad, mae'n amlwg bod angen newid cyfeiriad ar ein gwasanaeth iechyd.
"Os ydyn ni eisiau gwasanaeth iechyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol, mae angen i ni fynd i'r afael â gwraidd y materion hyn a gwella'r ffordd y mae'n cael ei redeg. Dyna pam rydyn ni wedi comisiynu adroddiad i edrych ar sut rydyn ni'n gwneud yr union hynny.
"O osod targedau mwy realistig a chyflawnadwy i wella gwasanaethau, hyrwyddo gweithio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, grymuso llais y claf i wella profiad cleifion a thryloywder y cyhoedd – i ail-ddiffinio rolau ac atebolrwydd gweithredol y gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru, a gwella diwylliant y gwasanaeth. Byddai’r holl gamau hyn yn cryfhau llywodraethu'r gwasanaeth iechyd gan wella ei effeithlonrwydd a chanlyniadau i’r claf.
"Mae Llafur wedi methu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd am 25 mlynedd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig dechrau newydd i'r gwasanaeth iechyd - dim mwy o atebion annigonol a meddwl tymor byr sydd ond yn cosbi staff a chleifion. Mae'n bryd am newid."
Mae'r adroddiad ar gael yn fan hyn.