Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canfyddiadau adolygiad cyflog y GIG a gwneud iawn am eu haddewidion am wobr ariannol

Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod adolygiad cyflog y gwasanaeth iechyd yn cael ei gyhoeddi ar unwaith, gan fod y llywodraeth wedi cadarnhau o'r blaen ei fod yn ddyledus cyn diwedd mis Mehefin.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd bod “ein bywydau” yn ddyledus i’n gweithwyr iechyd, a rhaid eu gwobrwyo am eu gwaith caled gyda “mwy na dymuniadau da yn unig.”

Yn ystod Politics Wales ddydd Sul, 6 Mehefin, cyfaddefodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, fod gan Lywodraeth Cymru “rwymedigaeth” i wobrwyo gweithwyr y GIG, a dywedodd nad oedd hi eisiau gweld cap cyflog o 1%, fel y bu'r awgrym yn Lloegr.

Hyd yn hyn, nid yw'r argymhellion gan gorff adolygu cyflogau annibynnol y GIG yng Nghymru wedi'u cyhoeddi.

Ar 23 Mehefin, ysgrifennodd naw undeb llafur lythyr agored at Lywodraeth Cymru yn gofyn am "godiad cyflog brys a sylweddol" i wobrwyo staff y GIG a'u hatal rhag gadael swyddi.

Mae Uwch Feddygon yn Lloegr wedi bygwth gweithredu diwydiannol os na chynyddir cynnig llywodraeth San Steffan o godiad cyflog o 1%.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Mae ein gweithwyr iechyd wedi ein cadw’n ddiogel yn ystod y pandemig - mewn gwirionedd, mae ein bywydau yn ddyledus iddyn nhw! Mae effaith yr oriau hir hynny, trwy un o'r cyfnodau mwyaf trawmatig a welodd ein GIG erioed wedi cael effaith fawr ar eu hiechyd a'u morâl.

“Os bydd Llywodraeth Cymru yn troi ei chefn ar yr addewidion a wnaeth o ran codiad cyflog, yna fe allai hefyd wynebu bygythiad cerdded allan.

“Mae ein gwasanaeth iechyd eisoes dan bwysau, heb ddigon o adnoddau a heb staff. Fy mhle i Lywodraeth Cymru yw sicrhau nad yw ein gweithwyr iechyd a gofal yn parhau i fod yn brin o dâl. ”