Mae'r data perfformiad diweddaraf y GIG yn dangos bod Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn methu â chyrraedd targedau ar nifer o fesurau.

Mae'r crynodeb gweithgaredd a pherfformiad diweddaraf y GIG, a ryddhawyd heddiw, (dydd Iau, 22 Mai 2025) ar gyfer Mawrth ac Ebrill 2025 yn dangos bod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi methu â chyrraedd llawer o dargedau a anelwyd at leihau amserau aros yng Nghymru.

Un o'r targedau methwyd yw targed y Prif Weinidog i leihau arosiadau o dros ddwy flynedd i 8,000 erbyn y Gwanwyn 2025, targed a sefydlwyd ar ôl iddi fethu targed cychwynnol Llywodraeth Cymru o ddileu arosiadau dwy flynedd yn gyfan gwbl erbyn Mawrth 2023. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o "symud y targedau a dal i'w methu" gan lefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.

Mae cyfres o dargedau hanesyddol eraill yn parhau i gael eu methu gan lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Targed: Neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol erbyn diwedd 2022
    • Gwirionedd: Y nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol oedd 71,000
  • Targed: Yr amser aros hiraf i gael profion diagnostig penodol yw 8 wythnos ac yr amser aros hiraf i gael gwasanaethau therapi penodol yw 14 wythnos – i’w gyrraedd erbyn Gwanwyn 2024.
    • Gwirionedd: 35,200 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed am brofion diagnostig a 4,000 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer therapïau.
  • Targed: Dim cleifion yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025
    • Gwirionedd: 155,800 o lwybrau yn aros mwy na blwyddyn.

 

Mae'r Llywodraeth hefyd wedi methu cyfres o dargedau eraill, gan gynnwys:

  • Targed: Ymateb i 65% o alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol – mae rhywun mewn perygl o farw’n gyflym, fel ataliad ar y galon) o fewn 8 munud.
    • Gwirionedd: Dim ond 50.9% o alwadau coch cyrhaeddodd o fewn 8 munud
  • Targed: Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
    • Gwirionedd: Dim ond 67.7% o gleifion dreuliodd llai na 4 awr mewn adrannau achosion brys.
  • Targed: Ni ddylai’r un claf orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.
    • Gwirionedd: Yn mis Ebrill, disgwyliodd 10,186 o gelifion dros 12 awr mewn adrannau achosion brys
  • Targed: 95% o gleifion yn aros llai na 26 wythnos ar ôl atgyfeirio.
    • Gwirionedd: Dim ond 55.2% o gleifion roedd yn disgwyl llai nag 26 wythnos
  • Targed: Dim cleifion yn aros yn hirach na 36 wythnos am driniaeth ar ôl atgyfeirio.
    • Gwirionedd: 268,400 o lwybrau cleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos (34%)
  • Targed: Dylai o leiaf 75% o gleifion ddechrau cael triniaeth o fewn 62 diwrnod (heb ohiriadau) ar ôl i'r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.
    • Gwirioendd: Dim ond 63.5% o’r llwybrau wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod ar ôl i’r amheuaeth o ganser godi am y tro cyntaf.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r Llywodraeth Llafur yng Nghymru am gamreoli'r GIG yn y 26 mlynedd diwethaf, gan eu cyhuddo o reoli dros wasanaeth iechyd 'sydd yn tanberfformio yn ddifrifol', trwy fethu targedau yn gyson heb 'arwydd gwirioneddol o newid'.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd, Mabon ap Gwynfor AS: 

“Cannoedd o filoedd o bobl ar restri aros, dros 8,000 ohonyn nhw'n aros am fwy na dwy flynedd. Mae'r ffaith bod unrhyw Lywodraeth yn ceisio hawlio hynny fel buddugoliaeth, yn arwydd o ba mor ddifrifol mae Llafur wedi camreoli ein gwasanaeth iechyd.

"Record o fethiant cyson a thargedau a fethwyd- dyna record y Llywodraeth Lafur hon pan ddaw i'n gwasanaeth iechyd. Record o bobl yn aros yn rhy hir, heb dderbyn y gwasanaeth maen nhw'n ei haeddu - record o fethiant.

“Hyd yn oed ar ôl symud y targed gwreiddiol o ddileu arosiadau dros ddwy flynedd erbyn 2023, mae Llafur dal wedi methu hyd yn oed cyrraedd y targed newydd. Nid yn unig hynny, ond ar bob un mesurydd perfformiad – mae Llafur wedi methu â chyrraedd eu targedau.

“Gyda gwasanaeth iechyd sydd yn tanberfformio yn ddifrifol, gyda rhestrau aros sydd mor hir â hyn, maen amlwg nad hyn yw'r gorau gall Gymru fod. Gall ein gwasanaeth iechyd fod gymaint gwell nag hyn. Gyda llywodraeth newydd sydd â chynllun credadwy ar gyfer ein GIG, cynllun i leihau rhestrau aros a diwygio ein GIG ar gyfer y dyfodol. Dyna mae Plaid Cymru yn ei gynnig yn 2026.”