Mae Plaid Cymru yn galw am chwyldro yn y maes iechyd a gofal i wella amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd

Mae amseroedd aros diweddaraf y GIG wedi'u rhyddhau, ac maent yn datgelu nad yw targedau'n cael eu cyrraedd o hyd.

 

Ar draws yr holl ddata, nid yw targedau'n cael eu cyrraedd, ac mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn achosi pryder arbennig. Mae'r darlun ar lefel bwrdd iechyd yn frawychus iawn, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddim yn cyrraedd y targed o 40% ar gyfer amseroedd ymateb o 8 munud.

 

Er gwaethaf gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys, y targedau pedair awr a deuddeg awr oedd y trydydd a'r ail isaf ar gofnod, yn y drefn honno. Yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau achosion brys hefyd oedd yr ail hiraf ar gofnod, sef tair awr a dwy funud.

 

Er bod diagnosis a thriniaeth canser wedi gwella ers y mis diwethaf, mae llawer o welliant i'w wneud o hyd o ran effeithlonrwydd i gleifion Canser.

 

Mae Plaid Cymru wedi parhau i alw am wneud newidiadau sylfaenol i leihau'r pwysau ar y GIG – mae'r rhain yn cynnwys mesurau ataliol, gwell gofal cymdeithasol i helpu i ryddhau cleifion, buddsoddi yn y gweithlu, a chanolfannau diagnostig a thriniaeth penodol. 

 

Dyweddodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Iechyd a Gofal Plaid Cymru:

 

"Wrth ystyried maint y problemau o fewn y gwasanaeth iechyd, boed hynny'n amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth neu oedi mewn ambiwlansys - mae'n rhaid i ni feddwl am y system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Mae llif y cleifion trwy’r system yn aneffeithlon ac mae diffyg capasiti i ddelio â'r galw.

 

"Er mwyn delio â'r galw, mae'n rhaid gweld newid chwyldroadol mewn agweddau tuag at mesurau iechyd ataliol. Er mwyn gwella llif cleifion mae'n rhaid i ni gryfhau gofal cymdeithasol. Ac er mwyn delio â chapasiti, rhaid inni gyflymu'r buddsoddiad mewn gweithlu ac mewn mesurau penodol fel canolfannau diagnostig a thriniaeth y gellir eu diogelu rhag pwysau brys. Heb hyn i gyd, byddwn yn parhau i droi mewn cylchoedd."