Mae cynlluniau i adeiladu amgueddfa filwrol ym Mae Caerdydd wedi cael eu beirniadu, gyda Phlaid Cymru yn galw’r penderfyniad yn “sarhad” i’r hanes cyfoethog lleol, ac yn lle hynny, yn galw am amgueddfa sydd yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl sy’n byw yno.

Mae'r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol yn bwriadu adleoli i leoliad ym Mae Caerdydd, o Farics Keogh yn Aldershot, Surrey. Mae Nasir Adam, actifydd cymunedol wedi galw’r penderfyniad yn enghraifft arall o bethau “yn cael eu gorfodi ar y gymuned leol, heb unrhyw ymgynghori â thrigolion.” Tra bod yr amgueddfa’n dweud bod ymgynghoriad cyhoeddus “bellach ar y gweill” mae deiseb a ddechreuwyd gan drigolion lleol i atal yr adleoli yn awgrymu nad yw hwn yn gywir.

Dywed Leanne Wood AS nad yw adleoli’r amgueddfa i Gaerdydd yn gwneud unrhyw synnwyr o ystyried diffyg hanes milwrol Caerdydd, ac yn dweud fod y penderfyniad yn dystiolaeth bellach o ‘gentrification’ ardal Bae Caerdydd - ailddatblygiad sydd wedi gweld llawer o gymunedau hanesyddol yr ardal yn cael eu gwthio i'r ochr.

Wrth i bobl o bob rhan o Gymru ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch ‘Black Lives Matter’, mae Ms Wood yn galw am amgueddfa sy'n cynrychioli hanes pobl dduon a rhai o grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill oedd yn galw Caerdydd ac ardaloedd eraill ledled Cymru yn gartref.

Roedd arfer bod amgueddfa a oedd yn cynrychioli bywydau ei gymuned amlddiwylliannol amrywiol ym Mae Caerdydd - Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt - ond caeodd hyn ei drysau yn 2016 oherwydd diffyg cyllid. Hon oedd yr un flwyddyn y dechreuodd yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol chwilio am ei chartref newydd. Mae'r amgueddfa newydd yn addo “profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf” ac yn gwerthu eitemau fel copïau o wisgoedd milwrol a ffigurynnau tanc bach yn ei siop anrhegion.

Dwedodd Leanne Wood AS, Gweinidog Cysgodol dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb:

“Mae hi’n sarhad ar y bobl sy’n perthyn i’r ardal fod Cyngor Caerdydd wedi gwylio Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt yn cau oherwydd diffyg arian yn 2016, dim ond i groesawu’r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol i’r ardal.

“Nid tref filwrol yw Caerdydd, a dydy hi ddim yn gwneud synnwyr cael amgueddfa yn gogoneddu rhyfela yno. Mae'r hyn sydd ganddo yn hanes cyfoethog, ond mae hyn yn cael ei wthio o'r neilltu yn gyflym gyda ‘gentrification’ ardal Bae Caerdydd.

“Beth sy’n ychwanegu sarhad pellach, yw ein bod ni'n clywed bod yr amgueddfa i'w lleoli ar un o'r meysydd chwarae olaf sydd ar ôl yn yr ardal.

“Yr hyn sydd ei angen yw amgueddfa sy’n adlewyrchu hanes amrywiol ac amlddiwylliannol y bobl sy’n galw ardal Bae Caerdydd yn gartref.”

Dywedodd actifydd cymunedol ac Ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer De Caerdydd a Phenarth, Nasir Adam,

“Mae amgueddfa lwyddiannus gyda chyswllt clir â phrofiadau trigolion lleol. Nid oes gan Gaerdydd hanes milwrol, ac felly mae'n rhaid i ni ofyn hanes a diwylliant pwy sy'n cael ei adrodd yn yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol?

“Daw’r symudiad diweddaraf hwn ynghyd nifer o bethau eraill sy’n cael eu gorfodi ar y gymuned leol, heb unrhyw ymgynghori â thrigolion.

“Os na all pobl yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli mewn amgueddfeydd, dydyn nhw ddim yn mynd i eisiau fod yn rhan ohono.”