Mae peidio a rhoi cymorth ariannol i fudiad yr Urdd yn anghyson â tharged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg – dyna farn Llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, Sian Gwenllian AS.

Roedd Ms Gwenllian yn ymateb i’r newyddion fod 80 o swyddi llawn amserol dan fygythiad yn yr Urdd, mudiad ieuenctid mwyaf Ewrop.

Mewn llythyr i Weinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg, Eluned Morgan, rhybuddiodd Sian Gwenllian AS y “byddai peidio ag ymateb gyda buddsoddiad gwirioneddol yn y mudiad, er mwyn sicrhau ei dyfodol tymor hir, yn anghyson gyda tharged eich Llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Aiff yr Aelod o’r Senedd dros Arfon ymlaen i nodi:

“Mae hon yn darged yr ydwyf i a fy mhlaid yn ei chefnogi, ond nid yw’n bosib i ni gefnogi safbwynt o wneud dim pan fo un o sefydliadau pwysicaf Cymru yn wynebu’r fath heriau.”

“A hithau’n agosau at ei phenblwydd yn gant oed, oni ddylid gwobrwyo’r Urdd gyda sefydlogrwydd tymor hir fel arwydd o ddiolch am ei chyfraniad at barhad yr iaith?".

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion pellach ar wariant ar y celfyddydau a diwylliant yr wythnos nesaf a bydd Plaid Cymru yn parhau i bwyso am fuddsoddiad fydd yn cefnogi’r Gymraeg.