Plaid Cymru’n ymateb i gydnabyddiaeth Cadeirydd ymchwiliad Covid na fydd yn bosib ystyried pob penderfyniad a wneir yng Nghymru fel rhan o ymchwiliad y DU

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r newyddion bod cadeirydd ymchwiliad Covid y DU wedi dweud nad yw’r ymchwiliad y bydd hi’n ei arwain yn “gallu ymdrin â phob penderfyniad” yn ymwneud â Chymru.

Ar ddiwrnod cyntaf yr ymchwiliad i Covid, meddai’r Farwnes Hallet, gan gyfeirio at y galwadau am graffu ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru drwy gydol y pandemig, “mae’n rhaid i mi bwysleisio, allwn ni ddim ymdrin â phob mater, allwn ni ddim ymdrin â, na galw pob tyst, rydyn ni’n mynd i orfod canolbwyntio ar y penderfyniadau mwyaf arwyddocaol a’r pwysicaf.”

Nododd y Farwnes Hallet hefyd y byddai’n dal yn bosibl ar gyfer ymchwiliad penodol i Gymru, gan ddweud: “Os caiff ymchwiliad Cymreig ei sefydlu, byddaf yn gweithio gyda nhw ac yn cydweithredu hyd eithaf fy ngallu i sicrhau ein bod yn ymdrin â’r holl faterion y byddai pobl Cymru yn dymuno eu gweld yn derbyn sylw.”

Pwysleisiodd y Farwnes Hallet na fyddai’n benderfyniad iddi ei wneud, a’i bod yn “hollol niwtral” ar y cwestiwn.

Mae Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, wedi cefnogi’r galwadau am ymchwiliad penodol i Gymru ers dechrau Covid ac wedi cefnogi’r un galwadau gan y grŵp Covid Bereaved Families for Justice Cymru.

Wrth ymateb i sylwadau’r Farwnes Hallett, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae cadarnhad Cadeirydd Ymchwiliad Covid y DU na fydd hi’n gallu edrych ar yr holl faterion perthnasol yng Nghymru, na chwaith yn craffu pob penderfyniad gafodd ei wneud yng Nghymru, yn cadarnhau’r angen am ymchwiliad penodol i Gymru.  

“Nid yw hyn yn tawelu meddwl y rhai sy’n parhau i gael eu cythruddo gan ymdrech Llywodraeth Llafur Cymru i osgoi craffu.

“Mae Plaid Cymru wedi galw ers dyddiau cynnar y pandemig i benderfyniadau a wnaed yng Nghymru - da a drwg - gael eu craffu yng Nghymru gan ymchwiliad sy’n benodol i Gymru. Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd perchnogaeth o’u penderfyniadau.

“Ond mae amser yn dal i fod i Lywodraeth Cymru newid ei meddwl, ac i roi i’r teuluoedd mewn profedigaeth yr hyn y maen nhw’n ei haeddu. Sefydlwch ymchwiliad Covid i Gymru nawr, cyn iddi fod yn rhy hwyr.”