Teitl: Astudiaeth di-deitl (wedi bwydo mewn i LIEBESTOD yn ddiweddarach)

Artist: Kevin Sinnott (twitter)

Cyfrwng: Olew ar Banel

 

Maint: 30cm x 40cm

Pris cadw: £1500

Ganwyd Kevin Synott yn 1947 yn Sarn, yn y de ac mae’n artist cyfoes Cymreig a chanddo enw gwirioneddol ryngwladol. Cafodd ei hyfforddi yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd ac yn y Royal College of Art yn Llundain. Arhosodd Kevin yn Llundain drwy gydol yr 1970au a’r 80au, gan adeiladu gyrfa lwyddiannus iawn, ac yn arddangos mewn galerïau blaengar yn Llundain, prif galerïau UDA ac ar dir mawr Ewrop. Dychwelodd i fyw yng Nghymru yn 1995.

Cedwir ei waith yn: Metropolitan Museum of Art, Efrog Newydd; Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Whitworth Art Gallery, Manceinion; Ashmolean Museum, Rhydychen; British Museum; Wolverhampton City Art Gallery; Arts Council of Great Britain; Cymdeithas Gelf Gyfoes Cymru; Oxford University Chaplaincy; Royal College of Art, Llundain; Y Cyngor Prydeinig; Cyngor Celfyddydau Ynys Manaw; MOMA Cymru.

Cliciwch am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno â'r ocsiwn neu i gynnig pris o flaen llaw.