Eitem 3: Luned Rhys Parri - Protest Pont Trefechan
Teitl: Protest Pont Trefechan
Artist: Luned Rhys Parri (instagram)
Cyfrwng: Print prawf untro wedi fframio
Maint:
Dyddiad: 2021
Pris cadw: £250
Am yr artist: Mae'r artist Luned Rhys Parri bellach yn enwog trwy Gymru a thu hwnt, am ei dioramâu tri-dimensiwn mewn papier mâché a chyfryngau cymysg. Protest Pont Trefechan yw teitl y darn a gynigir yn yr ocsiwn hwn, sef print o un o weithiau tri-dimensiwn yr artist ar bapur cotwm, wedi ei osod mewn ffrâm wen syml. Mae'r gwaith gwreiddiol yn portreadu’r digwyddiad dylanwadol ar Bont Trefechan ym 1963.
Cliciwch am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno â'r ocsiwn neu i gynnig pris o flaen llaw.