Eitem 4: Geraint Ross Evans - One day all this could be mine (Mon Paris)
Teitl: One day all this could be mine (Mon Paris)
Artist: Geraint Ross Evans (gwefan)
Cyfrwng: Siarcol wedi'i gywasgu ar bapur – wedi ei fframio
Maint: 56cm x 34cm
Dyddiad: 2017-18
Pris cadw: £500
Am yr artist: O frasluniau bach at luniadau eang medrus, mae dylunio o arsylwadau yn ganolog i waith Geraint. Yn aml wrth gyfuno disgyblaethau artistig, mae'n adeiladu ei themâu o amgylch profiad yr unigolyn, o safbwynt daearyddiaeth weledol a gwleidyddol lleoliadau. Mae One day all this could be mine (Mon Paris) yn ran o'i waith Surface Worlds (2017-18)—cyfres o luniadau a seinweddau sy'n ymchwilio i themâu dosbarth, prynwriaeth ac unigolyddiaeth fodern—a gipiwyd trwy adlewyrchiadau ffenestri un o brif ganolfannau manwerthu Llundain, Oxford Street.
Cliciwch am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno â'r ocsiwn neu i gynnig pris o flaen llaw.