Eitem 5: Harry Holland - Nude Study
Teitl: Nude Study
Artist: Harry Holland
Cyfrwng: Creon
Maint:
Dyddiad: 1999
Pris cadw: £700
Am yr artist: Cydnabyddir Harry Holland fel un o artistiaid ffigurol gorau Prydain. Gan ddefnyddio technegau clasurol i greu ei luniau ffigurol cyfoes, mae Harry’n ymgorffori motiffau fel mytholeg a phathos i drwytho ei waith gyda diamseredd enigmatig.
Fe’i ganed yng Nglasgow yn 1941 a threuliodd ei blentyndod mewn rhannau amrywiol o’r DG cyn setlo yn Llundain yn 1949. Hyfforddodd yn St. Martin’s School of Art o 1965-69 lle wnaeth e arddangos am y tro cyntaf yn 1969. Yn 1973 symudodd i Gaerdydd lle mae’n byw ac yn paentio heddiw.
Cedwir ei waith yn: y Tate, Llundain; Metropolitan Museum, Efrog Newydd; National Portrait Gallery, Canada; Casgliad Senedd Ewrop; Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru; Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain; Casgliad Cenedlaethol Gwlad Belg; Contemporary Art Society; Cyngor Celfyddydau Cymru; Cymdeithas Gelf Gyfoes Cymru; BBC Cymru.