Rhun ap Iorwerth yn gofyn am gyfarfod gyda Keir Starmer i drafod ariannu teg, Ystâd y Goron a HS2

Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS wedi ysgrifennu heddiw (Dydd Llun 29ain Ebrill) at yr arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer AS, i ofyn am gyfarfod i drafod y materion pwysig sy’n wynebu Cymru cyn Etholiad Cyffredinol.

Ysgrifenna Mr ap Iorwerth fod Vaughan Gething wedi ymrwymo at sawl polisi a gynigiwyd yn wreiddiol gan Blaid Cymru. Ym maniffesto Mr Gething, mae’n pwysleisio bod “HS2 yn amlwg yn brosiect Lloegr yn unig sydd wedi’i ddosbarthu fel Cymru a Lloegr er mwyn gwrthod cyllid i ni,” cyfeiriodd at ddatganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn fel “polisi sefydledig Llafur Cymru” a disgrifiodd bwerau dros Ystad y Goron fel y “set bwysicaf o bwerau newydd” y bydai’n ceisio amdanynt.

Fodd bynnag, mae Mr ap Iorwerth yn ysgrifennu, “ers iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog, mae wedi bod yn dawel ar y materion hyn” Yn ei lythyr, mae’n awgrymu fod ffocws Mr Gething ar y ddadl barhaus ynghylch y rhodd o £200,000 a dderbyniodd gan gwmni troseddwr amgylcheddol

Mae Mr ap Iorwerth yn codi ei bryderon fod Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, Jo Stevens AS, wedi gwrthod yr alwad am ddatganoli cyfiawnder, er gwaethaf y ffaith bod Llafur Cymru o blaid y cynnig.

Mae o hefyd yn cyfeirio at ostyngiad mewn termau real o £1.3 biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ers 2021. Dywedodd Mr Gething wrth y Senedd yn ddiweddar mai “dewisiadau Ceidwadol” oedd ar fai am y diffyg cyllid sy’n wynebu Cymru. Fodd bynnag, ym mis Mawrth, fe wnaeth y Canghellor Cysgodol, Rachel Reeves AS, yn glir na fyddai Llafur yn torri’r rheolau cyllidol a osodwyd gan y Ceidwadwyr pe bai’n cael ei hethol. Rhybuddiodd Mr ap Iorwerth “trwy fabwysiadu rheolau cyllidol llym y Torïaid, mae Llafur yn sicrhau y bydd Cymru’n parhau i gael ei dal yn ôl.”

Mae Mr ap Iorwerth yn annog Syr Keir i ystyried ei alwadau am “Gymru decach, a mwy uchelgeisiol.”

Yn y llythyr, ysgrifenna Mr ap Iorwerth:

“Ysgrifennaf atoch i ofyn am gyfarfod i drafod y materion pwysig sy’n wynebu Cymru cyn yr Etholiad Cyffredinol sydd i ddod.

“Addawodd Vaughan Gething, yn ei faniffesto arweinyddiaeth Llafur Cymru, bolisïau a gynigiwyd yn wreiddiol gan Blaid Cymru, gan gynnwys trosglwyddo symiau canlyniadol HS2 i Gymru, datganoli Ystad y Goron a datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn.

“Fodd bynnag, ers iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog, mae o wedi bod yn dawel ar y materion hyn, o bosibl oherwydd bod cwestiynau’n ymwneud â’r rhodd o £200,000 a dderbyniodd gan gwmni troseddwyr amgylcheddol yn denu ei sylw.

“Roeddwn yn siomedig o glywed adroddiadau ar ôl eich cyfarfod cychwynnol gyda’r Prif Weinidog newydd nad oedd unrhyw ymrwymiad i ddarparu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy’r prosiect HS2. Naill ai ni chododd Mr Gething y mater hwn neu methodd â'ch perswadio o'i arwyddocâd.

“Yn ystod ymgyrch yr arweinyddiaeth, dywedodd Mr Gething mai cyfrifoldeb am Ystâd y Goron yw’r “set bwysicaf o bwerau newydd” y byddai’n eu ceisio i’r Senedd. Dyma bolisi hirsefydlog Plaid Cymru – fyddai’n gwneud llawer i fod ein cymunedau’n elwa o ynni cynaliadwy. Fodd bynnag, mae eich Cabinet Cysgodol wedi gwrthod y polisi hwn hyd yn hyn.

“Mae hefyd yn ddigalon, er gwaethaf cytundeb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar bwysigrwydd datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn, bod eich Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Gymru, Jo Stevens AS, wedi gwrthod y syniad allan o law. Rwy’n gobeithio y byddwch yn cydnabod dadansoddiad manwl Llywodraeth Cymru o’r diffygion yn y system bresennol, a sut y byddai datganoli yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

“Yn fwy cyffredinol, mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar eu gliniau, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru yn wynebu gostyngiad mewn termau real o £1.3 biliwn ers 2021 oherwydd chwyddiant, ynghyd â diffyg o £1.1 biliwn o gyllid ar ôl yr UE. Mae Mr Gething wedi bod yn groch yn ei feirniadaeth o Lywodraeth bresennol y DU ac mae'n honni y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn mynd i'r afael â hyn.

“Os bydd y Ceidwadwyr, yn ôl y disgwyl, yn colli grym yn yr etholiad nesaf, bydd cyfle euraidd i ddiwygio system wleidyddol ddiffygiol y DU. Fodd bynnag, drwy fabwysiadu rheolau cyllidol llym y Torïaid, mae Llafur yn sicrhau y bydd Cymru’n parhau i gael ei dal yn ôl. Byddai fformiwla ariannu yn seiliedig ar anghenion a datganoli pwerau cyllidol i Gymru yn mynd i’r afael a’r anghydbwysedd hwn.

“Fe’ch anogaf i ystyried y galwadau hyn – gan fy mhlaid i, a llawer o’ch cyd-Aelodau eich hun yn y Blaid Lafur yng Nghymru – a gobeithio’n fawr y byddwch yn derbyn fy nghais i drafod sut y gallwn adeiladu Cymru decach, fwy uchelgeisiol.”