System 'cyntaf i'r felin' yn anaddas i'r Gymru fodern - Ymgeisydd Comisiynydd Heddlu Plaid Cymru dros y Gogledd

Mae ymgeisydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Plaid Cymru dros y Gogledd, Ann Griffith, wedi dweud heddiw (17 Mawrth) fod cynlluniau Llywodraeth y DU i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr Heddlu yn dangos "dirmyg tuag at ein democratiaeth".

Ar hyn o bryd ar gyfer etholiadau Comisiynwyr Heddlu, mae pleidleiswyr yn rhifo ymgeiswyr yn nhrefn eu dewis. Ar ôl y rownd gyntaf o gyfrif, mae pleidleisiau'r cystadleuwyr llai llwyddiannus yn cael eu hailddosbarthu rhwng y ddau ymgeisydd mwyaf poblogaidd. Nod hyn yw sicrhau bod gan yr ennillydd yn derbyn yr ystod mwyaf eang o gefnogaeth, a dywedodd Ms Griffith sy'n "hanfodol i ardal mor sensitif â phlismona".

Mae Llywodraeth y DU bellach yn cynnig defnyddio system cyntaf i'r felin (First Past the Post) ar gyfer etholiadau Comisiynwyr Heddlu yng Nghymru a Lloegr, system y mae Ms Griffith yn ei disgrifio fel "system hynafol sydd wedi’i chynllunio i weithio i ddwy brif blaid y Deyrnas Unedig."

Ni ddisgwylir i'r newid effeithio ar yr etholiadau sydd i ddod ar 6 Mai 2021 ond mae disgwyl iddo effeithio ar y rownd nesaf o etholiadau.

Dywedodd Ms Griffith fod Plaid Cymru wedi'i "ymrwymo’n gyson i gynrychiolaeth gyfrannol er mwyn rhoi dewisiadau democrataidd gwirioneddol i bobol Cymru ym mhob etholiad."

Dywedodd Ann Griffith:

"Mae’r llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn gorfodi’r newid hwn i’r system etholiadol heb hyd yn oed ymgynghori â phobl Cymru, unwaith eto yn dangos dirmyg tuag at ein democratiaeth.

“Mae’r system bresennol yn ceisio sicrhau bod yr ymgeisydd sydd â’r gefnogaeth ehangaf yn cael ei ethol, sy’n hanfodol ar gyfer ardal mor sensitif â phlismona.

“Mae etholiadau San Steffan yn brawf nad yw'r system 'cyntaf i'r felin' yn addas.

“Mae’n system hynafol sydd wedi’i chynllunio i weithio i ddwy brif blaid y Deyrnas Unedig.

“Mae gan y Gymru fodern amrywiaeth eang o bleidiau a safbwyntiau, a ddylai gael eu hadlewyrchu ym mhob un o’n hetholiadau.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo’n gyson i gynrychiolaeth gyfrannol er mwyn rhoi dewisiadau democrataidd gwirioneddol i bobol Cymru ym mhob etholiad.”