Mae Cymrun ennill pan fydd gan Blaid Cymru le wrth y bwrdd

Mae Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru drwy benderfyniad y blaid i gydweithio er lles pobl Cymru.

Mae pedair miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol wedi eu darparu i blant ledled y wlad hyd yma, diolch i Gytundeb Cydweithio y blaid â Llywodraeth Cymru.

Mae’r blaid heddiw wedi cadarnhau, diolch i’w phenderfyniad parhaus i weithio er budd y genedl a’i phobl, bod y cyllid ar gyfer y fenter bwysig hon wedi'i diogelu a’i gwella.

Rhoddwyd amddiffyniad i bob un o bedwar deg chwech o feysydd y rhaglen bolisi o’r Cytundeb Cydweithio yn ystod y broses hon. Yn ogystal, mae cyllid newydd ar gyfer mentrau costau byw wedi’u cyhoeddi, a fydd yn helpu'r rhai mwyaf anghenus. Cyflawnwyd hyn rhwng cyllideb ddrafft a therfynol fel rhan o ddylanwad ehangach Plaid Cymru ar gyllideb Cymru.

Mae’r cyllid newydd yn cynnwys £40m i gynnig amddiffyniad ychwanegol i’r rhai mewn trafferthion morgeisi, yn debyg i’r Cynllun Achub Morgeisi a gyflwynwyd gan Ieuan Wyn Jones a Jocelyn Davies yn ystod Llywodraeth Cymru’n Un pan oedd argyfwng ariannol 2008 ar ei waethaf.

Bydd manylion llawn y buddugoliaethau ychwanegol y mae Plaid Cymru wedi ei sicrhau yn cael eu datgelu yn ddiweddarach heddiw, cyn i’r gyllideb derfynol gael ei thrafod a phleidleisio arno gan y Senedd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Llyr Gruffydd AS:

“Mae pedair miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol yn fuddsoddiad uniongyrchol yn nyfodol ein cenedl. Mae’r diolch i ymgyrchu Plaid Cymru fod y fenter bwysig hon yn y Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru.

“Mewn cyfnod lle mae costau cynyddol yn gorfodi gormod o deuluoedd i orfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu wresogi eu bwyd - mae rhoi pryd poeth, maethlon i blant yn yr ysgol wedi helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Bydd y newyddion heddiw, bod yr arian ar gyfer y fenter hon wedi’i neilltuo, yn helpu i ddiogelu ein plant rhag toriadau’r Torïaid am flynyddoedd i ddod.

“Yn amlwg mae llawer mwy yr hoffem ei wneud, ond fe all aelodau o Blaid Cymru – ac yn wir ein cenedl ehangach – ymfalchïo ein bod ni yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth diriaethol i’r rhai sydd ei angen fwyaf.”