Mae torri prisiau ynni, rhewi rhent a sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus fwy fforddiadwy wrth galon cynllun Plaid Cymru i warchod aelodau mwyaf bregus cymdeithas rhag effeithiau'r argyfwng costau byw - dyna fydd neges Adam Price yfory.

Wrth siarad cyn Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru ac yn sgil datganiad o ymddiswyddiad y Prif Weinidog Liz Truss, dywedodd Adam Price:

"Mae sarhad y Llywodraeth Geidwadol tuag at ddemocratiaeth, eu cynllwynio, eu parodrwydd i aberthu pawb a phopeth ar allor uchelgais wedi arwain at yr arweinyddiaeth fyrraf erioed yn hanes Prif Weinidogion Prydain. Gweithred gyntaf - a gobeithio olaf - y Prif Weinidog nesaf ddylai fod cyhoeddiad i alw Etholiad Cyffredinol. Nid oes ganddynt unrhyw fandad nac unrhyw hygrededd yn weddill. Mae'r Toriaid yn wynebu diflannu'n llwyr o fap gwleidyddol Cymru yn yr etholiad nesaf. Y dewis sy'n ein wynebu ydi cael gwared arnynt dros dro drwy Lywodraeth Lafur yn San Steffan, neu gael gwared arnynt am byth gydag annibyniaeth."

Gan droi at syniadau ymarferol Plaid Cymru i daclo'r argyfwng costau byw, bydd Mr Price yn cyhoeddi "Cynllun y Bobl" - casgliad o fesurau blaengar gyda'r amcan o dargedu cymorth ble fo fwyaf ei angen. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:

  • Canslo’r cynnydd pris fis Hydref ac adfer cap y gaeaf diwethaf o £1,277 a oedd yn llawer is, ac ymestyn y cap y tu hwnt i’r cyfyngiad chwe mis ar gyfer cartrefi a busnesau.
  • Darparu codiad o £25 yn y Credyd Cynhwysol ar unwaith ac ymrwymo i godi pob budd-dal yn unol a chwyddiant o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
  • Rhewi rhent yn y sector breifat a gwahardd troi am allan y gaeaf hwn fel y cam cyntaf tuag at system o reoli rhent. 
  • Rhewi prisiau tocynnau tren ar gyfer 2023, gyda mwy o docynnau tu allan i oriau brig yn cael eu gwerthu hanner pris, a chyflwyno cap o £2 ar bris tocyn bws.
  • Ehangu’r polisi cinio ysgol i bawb i bob disgybl ysgol uwchradd gan ddechrau gyda phlant y teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
  • Talu cyflog teg yn y sector gyhoeddus. 

Bydd Mr Price hefyd yn beirniadu amharodrwydd Llywodraeth Lafur Cymru i gymryd rhan yn y ddadl ynghylch defnydd blaengar o dreth incwm mewn modd sy'n gwobrwyo gweithwyr y sector gyhoeddus yn deg, a bydd yn gwahodd Llywodraeth Cymru i weithio gyda Phlaid Cymru i'r perwyl hwn. 

Wrth annerch y Gynhadledd Flynyddol gyntaf i'r Blaid ei chynnal yn y cnawd ers dechrau'r pandemig, mae disgwyl i Adam Price ddweud: 

"Mae sarhad y Llywodraeth Geidwadol tuag at ddemocratiaeth, eu cynllwynio, eu parodrwydd i aberthu pawb a phopeth ar allor uchelgais wedi arwain at yr arweinyddiaeth fyrraf erioed yn hanes Prif Weinidogion Prydain. Gweithred gyntaf - a gobeithio olaf - y Prif Weinidog nesaf ddylai fod cyhoeddiad i alw Etholiad Cyffredinol. Nid oes ganddynt unrhyw fandad nac unrhyw hygrededd yn weddill. Mae'r Toriaid yn wynebu diflannu'n llwyr o fap gwleidyddol Cymru yn yr etholiad nesaf. Y dewis sy'n ein wynebu ydi cael gwared arnynt dros dro drwy Lywodraeth Lafur yn San Steffan, neu gael gwared arnynt am byth gydag annibyniaeth.

Mewn ymosodiad chwyrn ar yr anhrefn llwyr sydd wedi llethu San Steffan dros yr wythnosau diwethaf, mae disgwyl i Adam Price AS ddweud wrth fynychwyr y Gynhadledd yn Llandudno:

"Digon yw digon oherwydd mae goblygiadau penderfyniadau Rhif 10 - yr 'office of budget irresponsibility' - yn mynd tu hwnt i'r marchnadoedd ariannol.

"Rhaid bod yn glir, mae'r toriadau ar y ffordd - yn rhwygo drwy ein gwasanaethau cyhoeddus. 

"Ac os yw'r Ffordd Gymreig am olygu unrhyw beth rhaid iddi gynnwys datrysiadau Cymreig hefyd. Yn rhy aml a heb esgus, mae gweinidogion wedi ceisio lloches wleidyddol drwy feirniadu eraill yn hytrach na gorfodi newid eu hunain.

"Ble mae radicaliaeth Llafur wedi mynd? Gwyddom na fyddem yn ei ganfod gyda Keir Starmer ond roeddem wedi gobeithio ei ganfod yn agosach at adre.

"Ble mae eu cydsafiad mewn cyfnod o argyfwng?

"Oherwydd argyfwng yw hwn - mae'r golau glas yn fflachio a gallwn ni fod ar y rheng flaen. Ar y blaen gyda syniadau, ar y blaen gyda datrysiadau, ar y blaen wrth fynnu gweithredu. 

“Mae Cynllun y Bobl yn gymdeithasol gyfiawn ac yn bosib ei weithredu ar unwaith.

“Mae'n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy, cyflogau i fynd yn bellach, darpariaeth tai yn decach, a chyfraddau treth yn fwy blaengar.”

Mewn apel uniongyrchol i Lywodraeth Lafur Cymru, mae hefyd disgwyl i Adam Price ddweud:

“Rwy'n gwneud y cynnig hwn i Lywodraeth Lafur Cymru.

“Gweithiwch gyda ni ac fe weithiwn ni gyda chi - gall Cynllun y Bobl fod yn gymal dau y Cytundeb Cydweithio - os ydym yma i bawb yng Nghymru ac eisiau creu Cymru i bawb yna gadewch i ni ganfod tir cyffredin er mwyn daioni cyffredin - pobl cyn gwleidyddiaeth, cenedl cyn plaid. 

“Ni wnaiff y Toriaid hyn ond fe allwn ni. Er nad yn ddigon, mae gennym yr offer i wneud gwahaniaeth - mae yna ffordd - yr hyn sydd ei angen nawr yw'r ewyllys."


Mae Cynllun y Bobl ar gael i'w ddarllen yma