Cyllideb: Plaid Cymru yn gwarantu £300m i'r GIG a chynghorau
“Gweithredom i amddiffyn gwasanaethau a biliau treth cyngor er mwyn sicrhau bod llywodraeth nesaf Cymru mewn sefyllfa fwy cynaliadwy” – arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau £300m i gynghorau a’r gwasanaeth iechyd mewn setliad yng nghyllideb dros dro Llafur.
Roedd Plaid Cymru wedi rhybuddio byddai cyllideb ddrafft Llafur yn ergyd ddifrifol i wasanaethau cyhoeddus Cymru - gan wthio cynghorau tuag at golli miloedd o swyddi, gan orfodi codiadau serth yn y dreth gyngor, a gadael y gwasanaeth iechyd gyda chodiad cyllido hanesyddol o isel.
Bydd Awdurdodau Lleol a’r gwasanaeth iechyd nawr yn derbyn llawer mwy o gyllid oherwydd ymyrraeth Plaid Cymru gydag awdurdodau lleol i dderbyn cynnydd cyfartalog o 4.5% gyda isafswm o gynnydd o 4% i pob cyngor o gymharu â 2.2% gwreiddiol Llafur, a bydd y gwasanaeth iechyd yn gweld cynnydd o 3.6% o'i gymharu â 2.1% yn flaenorol.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, drwy ganiatáu i'r gyllideb basio yn gyfnewid am y cynnydd angenrheidiol yng nghyllidebau iechyd a chynghorau, fod Plaid Cymru wedi sicrhau bod toriadau arfaethedig ‘trychinebus’ Llafur yn cael eu hosgoi.
Er bod hyn yn parhau i fod yn gyllideb i Lafur ei pherchnogi, dywedodd Mr ap Iorwerth, heb i Blaid Cymru ymyrryd, y byddai Llywodraeth nesaf Cymru ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai yn etifeddu sylfeini llawer gwannach. Dywedodd arweinydd y Blaid fod y blaid wedi “gweithredu i amddiffyn gwasanaethau nawr” ac i sicrhau bod y llywodraeth nesaf “mewn sefyllfa fwy cynaliadwy”.
Gan feirniadu llywodraeth Lafur am yr ansicrwydd a achoswyd gan y gyllideb, dywedodd Mr ap Iorwerth fod ei blaid yn barod i arwain Llywodraeth Cymru ar ôl mis Mai gyda'r 'arweinyddiaeth newydd' sydd ei hangen i droi pethau o gwmpas.
Meddai arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,
“Mae Plaid Cymru bob amser yn gweithredu er budd gorau Cymru a dyna’n union yr hyn yr ydym yn ei wneud ar y gyllideb.
“Byddai cyllideb ddrafft Llafur wedi arwain at dreth gyngor uchel iawn, colledion swyddi digynsail yn ein sector cyhoeddus, a setliad hanesyddol isel i’r gwasanaeth iechyd. Ni fydd Plaid Cymru yn caniatáu i hyn ddigwydd.
“Gofynnom am ddau beth - amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus ac atal codiadau treth gyngor anfforddiadwy, a chywiro’r setliad gwasanaeth iechyd annigonol a achoswyd gan gyllideb Llafur. Rydym wedi sicrhau’r ddau.
“Bydd cynghorau a’r gwasanaeth iechyd nawr yn derbyn llawer mwy o gyllid oherwydd ymyrraeth Plaid Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn derbyn cynnydd cyfartalog o 4.5% gyda isafswm o gynnydd o 4% i pob cyngor, o’i gymharu â 2.2% gwreiddiol Llafur, a bydd y GIG yn gweld cynnydd o 3.6% o’i gymharu â 2.1% yn flaenorol.
“Mae hwn yn parhau i fod yn gyllideb i Lafur ei pherchenogi ond heb Blaid Cymru yn ymyrryd, byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn etifeddu sylfeini llawer gwannach. Fe wnaethon ni weithredu i amddiffyn gwasanaethau nawr ac i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa gryfach ar gyfer y dyfodol.
“Os gall Plaid Cymru gyflawni hyn mewn gwrthblaid, dychmygwch beth allwn ni ei gyflawni gyda’r cyfle i arwain Llywodraeth nesaf Cymru ym mis Mai - newid go iawn ac arweinyddiaeth newydd sy’n rhoi pobl Cymru yn gyntaf.
Meddai arweinydd Cyngor Sir Ynys Mon ac Arweinydd Grwp Plaid Cymru ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Gary Pritchard,
“Mae hwn yn ymyrriad i’w groesawu ac rydym yn ddiolchgar bod Plaid Cymru wedi camu i mewn lle na wnaeth Llafur. Ni fydd y gefnogaeth ychwanegol yn cael gwared a phob pwysau rydym yn ei wynebau fel awdurdodau lleol, ond mae'n atal canlyniad trychinebus i'n cymunedau ac yn rhoi'r lle i gynghorau anadlu – rhywbeth sydd ei angen arnom ar frys.
“Ers blynyddoedd, mae cynghorau wedi cael eu gorfodi i wneud mwy gyda llai, ac mae'r pwynt wedi dod lle nad yw'r dull hwnnw o weithredu yn gynaliadwy o gwbl.
“Yr hyn sydd ei angen nawr yw cynllunio hirdymor, cyllid teg, ac arweinyddiaeth sy'n gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn. Mae cyhoeddiad heddiw yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac rydym yn edrych ymlaen at fis Mai fel cyfle gwirioneddol ar gyfer arweinyddiaeth newydd a phartneriaeth ffres, adeiladol ar gyfer y dyfodol.