Mae Plaid Cymru wedi addo'n ffurfiol y bydd yn cynnig refferendwm annibyniaeth i Gymru o fewn tymor cyntaf Llywodraeth pe bai'n ennyn mwyafrif yn dilyn etholiadau'r Senedd eleni.

Yng nghynhadledd arbennig y blaid ar annibyniaeth, a gynhaliwyd heddiw (dydd Sadwrn 13eg o Chwefror), fe wnaeth aelodau'r blaid gymeradwyo yn ffurfiol yr addewid a wnaed gan Arweinydd y blaid Adam Price ddiwedd y llynedd.

Mae'r polisi bellach yn gwneud Plaid Cymru yr unig blaid wleidyddol sy’n herio etholiadau Senedd 2021 gydag ymrwymiad clir i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn amserlen glir.

Mae hefyd yn gwneud etholiadau Senedd 2021 yr etholiadau cyntaf erioed yng Cymru lle mae annibyniaeth a'i hamserlen ar y papur pleidleisio.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod hanes wedi ei wneud ac ychwanegodd bod y bleidlais yn adlewyrchu'r "hyder cynyddol" yng ngallu Cymru i redeg ei materion ei hun.

Mae aelodaeth o'r grŵp llawr gwlad Yes Cymru wedi tyfu'n gyflym – gan daro 17,000 o aelodau fis diwethaf. Mae 25,000 o bobl wedi arwyddo ei haddewid ar-lein yn cefnogi refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.

Wrth siarad ar ôl y gynhadledd, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

"Cafodd hanes ei wneud heddiw. Am y tro cyntaf, bydd annibyniaeth a'i hamserlen ar y papur pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol yng Nghymru, gan adlewyrchu'r hyder cynyddol yn ein gallu i redeg ein materion ein hunain.

"Gyda chefnogaeth heddiw i'n cred y dylai pobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol erbyn canol y ddegawd mae gennym fap clir ar gyfer cenedl rydd a theg.

"Mewn llywodraeth, byddwn yn adeiladu ar waith rhagorol y Comisiwn Annibyniaeth drwy ddeddfu ar gyfer Deddf Hunanbenderfyniad i Gymru sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer Comisiwn Cenedlaethol a fydd yn goruchwylio'r broses sy'n arwain at y refferendwm.

"Dydyn ni ddim eisiau ennill annibyniaeth er mwyn annibyniaeth, ond yn hytrach er mwyn y miloedd o deuluoedd sy’n dibynnu ar Gymru ddod yn genedl decach, fwy cyfartal.

"Yn y cyfnod ansicr hwn, yr unig sicrwydd yw y gallwn wneud yn llawer gwell na'r status quo - normal newydd sydd yno i'w ennill yn y ddadeni a ddaw gyda’r gwanwyn.