Mae Plaid Cymru wedi dathlu canlyniad “rhagorol” yn yr etholiad cyffredinol ar ôl cadw dwy sedd ac ennill dwy.

Meddai Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth:

“Mae hwn yn ganlyniad arbennig i Blaid Cymru ac yn dyst i’r cynhesrwydd a’r brwdfrydedd gwirioneddol rydym wedi bod yn ei deimlo ar garreg y drws am y chwe wythnos diwethaf.

Er gwaethaf etholiad serch hynny, dyma ganlyniad gorau’r blaid erioed mewn Etholiad Cyffredinol – sy’n cynrychioli’r gyfran fwyaf o seddi a enillwyd.

Roedd pobl yn dweud wrthym yn gyson eu bod yn ysu i weld cefn y Torïaid ond nad oedd Llafur yn cynnig newid gwirioneddol ychwaith.

Safodd Plaid Cymru ar lwyfan positif ac uchelgeisiol o degwch i Gymru ac rwyf wrth fy modd bod pobl wedi rhoi eu ffydd mewn pedwar ymgeisydd rhagorol i’w cynrychioli yn San Steffan.

Bydd Liz, Ben, Llinos ac Ann yn gweithio’n ddiflino i sicrhau na fydd llais Cymru byth yn cael ei anwybyddu gan y llywodraeth Lafur newydd.

Er gwaethaf taflu popeth at Gaerfyrddin ac Ynys Môn, methodd ton Llafur ledled y DU yn wyneb ymgyrchoedd lleol cryf a dau ychwanegiad newydd rhagorol i rengoedd y Blaid yn San Steffan.

Mae’r canlyniad hwn yn dangos mai Plaid Cymru yw’r dewis amgen clir i Lafur yng Nghymru ac mae ein ffocws bellach yn symud at gyflwyno gweledigaeth y gall mwy o bobl ei chefnogi yn Etholiad y Senedd yn 2026.”