“Ni ellir cael Cymru rydd nes bod pawb yn rhydd” – Adam Price AS yn ailddatgan cefnogaeth i gymuned LHDTC+ cyn Pride Cymru

Cyn Pride Cymru 2022, mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, wedi cyhoeddi neges bersonol i’r gymuned LHDTC+, yn ymrwymo i gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu LHDTC+.

Mae gorymdaith Pride eleni wedi’i gosod yn erbyn cefndir cynyddol casineb yn erbyn y gymuned LHDTC +, yn enwedig pobl draws sydd wedi’u targedu a’u dilorni yn y wasg, ac yn ras arweinyddiaeth y Torïaid.

Yn ei neges, mae Mr Price yn addo parhau i frwydro dros y pwerau i ddeddfu er mwyn gwella bywydau a gwarchod diogelwch pobl traws yng Nghymru, condemnio therapi trosi, ac addo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i geisio’i wahardd yng Nghymru.

Nid yw’r pŵer i wahardd therapi trosi wedi’i ddatganoli i Gymru ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o’r blaen ei bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol i benderfynu ar yr ysgogiadau sydd ganddo.

Nid yw’r pŵer i wahardd therapi trosi yn ddatganoledig i Gymru ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi o’r blaen ei bod yn ceisio cyngor cyfreithiol i benderfynu pa opsiynau sydd ganddi i ddeddfu ar y mater.

Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser am y pŵer i ddeddfu i wella bywydau ac amddiffyn diogelwch pobl traws yng Nghymru ac yn credu y dylid datganoli Deddf Cydraddoldeb 2010 i’r Senedd.

Dywedodd Adam Price AS, arweinydd Plaid Cymru,

Mae mynd i’r afael ag anghyfiawnder yn rhan hanfodol o ailadeiladu cymdeithas decach ac mae Plaid Cymru yn sefyll dros hawliau pawb yn y gymuned LHDTC+. Bydd y Blaid yn parhau i frwydro dros ddatganoli’r ddeddf cydraddoldeb er mwyn i Gymru allu mynd i’r afael â throseddau casineb o ddifrif.

“Mae ras arweinyddiaeth y Torïaid wedi creu gofod ar gyfer sgyrsiau niweidiol am hawliau pobl traws, ac wedi cyfrannu at y camargraff peryglus bod hawliau traws a hawliau menywod yn faterion sy’n gwrthdaro. Mae cyfansoddiad Plaid Cymru yn amddiffyn hawliau pobl traws ac rydyn ni’n credu yn eu hawl i fyw yn rhydd o fewn eu mynegiant rhywedd.

“Mae llywodraeth y DU, er gwaethaf ymrwymiad yn eu Cynllun Gweithredu LHDT 2018, wedi methu â dod â therapi trosi i ben. Rwy’n addo parhau i frwydro dros y pwerau angenrheidiol fel y gallwn ni yng Nghymru unwaith ac am byth wahardd y cam-drin hwn.

“Yn y cyfamser, mae’n bwysig ein bod yn creu llwybr gwahanol i’n cenedl, ac mae’r ymrwymiadau sy’n cael eu hamlinellu yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn glir ar ein huchelgais gyffredin i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Rwy’n dymuno penwythnos balchder hapus i bawb yn y gymuned. Wrth i ni ddathlu unigolrwydd pawb drwy’r thema ‘Unigryw ac Unedig’ rwy’n addo fy nghefnogaeth i gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yng Nghymru ac ail-ddatgan fy nghefnogaeth llwyr i’r gymuned draws. Rwy’n sefyll mewn undod â nhw yn erbyn trawsffobia.

“Mae ein Cymru ni yn Gymru i bawb. Does dim modd cael Cymru rydd nes bod pawb yn rhydd.”