Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DU i weithredu i helpu pobl â chostau byw
ASau yn amlinellu cyfres o fesurau i ‘sicrhau bod cymunedau Cymru yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt’
Heddiw (dydd Mawrth 31 Mawrth) mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth y DU i roi cyfres o fesurau yn eu lle i gefnogi aelwydydd a busnesau yng Nghymru sy'n wynebu costau uwch o ganlyniad i'r rhyfel yn Iran.
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Sero Net, mynegodd y pedwar AS Plaid Cymru eu gwrthwynebiad i’r rhyfel ar sail foesol a dyngarol ac anogwyd Llywodraeth y DU i ddilyn “pob llwybr posibl” i leihau’r gwrthdaro.
Nododd ASau Plaid Cymru eu pryderon hefyd ynghylch yr effaith y mae'r rhyfel yn ei chael ar gostau byw pobl yng Nghymru, gan sôn y bydd pris hanfodion fel petrol ac olew gwresogi yn parhau i godi. Er bod y gefnogaeth sydd eisoes wedi'i chyhoeddi gan Lywodraeth y DU i'w goresawu, maent yn pryderu na fydd yn ddigonol i fynd i'r afael â "graddfa'r her sy'n wynebu cymunedau yng Nghymru".
Cymru sydd â'r stoc tai hynaf yn y DU, gyda 26% o gartrefi wedi'u hadeiladu cyn 1919. Mae aelwydydd â effeithlonrwydd ynni is a lefelau uwch o dlodi tanwydd yn golygu bod aelwydydd Cymru yn fwy agored i unrhyw gynnydd sydyn mewn prisiau.
Am y rheswm hwnnw, mae Liz Saville Roberts, Ben Lake, Llinos Medi ac Ann Davies wedi annog Llywodraeth y DU i gymryd y camau canlynol i gefnogi pobl yng Nghymru yn ystod yr argyfwng hwn:
- Darparu cefnogaeth uniongyrchol ehangach i gartrefi a busnesau pan fydd biliau'n codi uwchlaw cap prisiau presennol Ofgem, gan ystyried y costau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu, megis ffioedd sefydlog uchel, ynghyd â chynyddu cefnogaeth i'r rhai sy'n ddibynnol ar olew gwresogi ac LPG.
- Camau cryfach yn erbyn cwmnïau sy'n methu ag anrhydeddu contractau neu sy'n manteisio ar gynnydd sydyn mewn prisiau, gan gynnwys trethi llymach ar elw gormodol.
- Torri'r cysylltiad rhwng prisiau trydan a nwy i leihau biliau hyd at £200, gyda chefnogaeth i fuddsoddiad hirdymor mewn ynni adnewyddadwy i amddiffyn defnyddwyr rhag marchnadoedd byd-eang anwadal.
Mae grŵp Plaid Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth y DU ddefnyddio'r adeg hon o'r flwyddyn i lunio pecyn o fesurau sy'n deg ac yn ymarferol cyn misoedd oerach yr hydref a'r gaeaf.
Yn eu llythyr, mae ASau Plaid Cymru yn dweud:
“Rydym yn ysgrifennu atoch yn sgil y cynnydd sydyn yng nghost ynni i gartrefi a busnesau yng Nghymru ar ôl dechrau’r rhyfel yn Iran. Rydyn ni’n gwrthwynebu’r rhyfel hwn ar sail foesol a dyngarol, ond rydym hefyd yn bryderus iawn am yr effaith y bydd yn ei chael ar gostau byw pobl yng Nghymru. Rydym yn annog y Llywodraeth i ddilyn pob llwybr posibl i leihau’r gwrthdaro.
“Hyd nes i’r rhyfel ddod i ben ac hyn nes y gwelwn gadwyni cyflenwi yn sefydlogi, bydd prisiau hanfodion fel petrol ac olew gwresogi yn parhau i godi. Mae cartrefi yn wynebu cynnydd o dros £300 yn eu biliau ynni’r haf hwn o dan y Cap Pris Ynni, ac mae busnesau’n ofni am eu dyfodol wrth iddynt gael eu gadael yn gynyddol fregus i'r sefyllfa hon.
“Er ein bod yn croesawu’r gefnogaeth sydd wedi’i gyhoeddi hyd yma, rydym yn pryderu nad yw’n ddigonol i fynd i’r afael â maint yr her sy’n wynebu cymunedau yng Nghymru. Mae aelwydydd oddi ar y grid yn poeni y bydd lefel a darpariaeth y gefnogaeth yn gadael rhai heb y cymorth sydd ei angen arnynt. Yn y cyfamser, dydy bwriad y Llywodraeth i gyflwyno cefnogaeth wedi’i thargedu i helpu aelwydydd gyda biliau ynni ddim yn cymryd y costau ychwanegol y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu mewn i ystyriaeth.
“Felly, rydym yn eich annog i gymryd y camau canlynol i gefnogi pobl yng Nghymru yn ystod yr argyfwng hwn:
- Darparu cefnogaeth uniongyrchol ehangach i gartrefi a busnesau pan fydd biliau'n codi uwchlaw cap prisiau presennol Ofgem, gan ystyried y costau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu, megis ffioedd sefydlog uchel, ynghyd â chynyddu cefnogaeth i'r rhai sy'n ddibynnol ar olew gwresogi ac LPG.
- Camau cryfach yn erbyn cwmnïau sy'n methu ag anrhydeddu contractau neu sy'n manteisio ar gynnydd sydyn mewn prisiau, gan gynnwys trethi llymach ar elw gormodol.
- Torri'r cysylltiad rhwng prisiau trydan a nwy i leihau biliau hyd at £200, gyda chefnogaeth i fuddsoddiad hirdymor mewn ynni adnewyddadwy i amddiffyn defnyddwyr rhag marchnadoedd byd-eang anwadal.
“Mae’r gwanwyn hwn yn gyfle i lunio pecyn o fesurau sydd yn deg ac yn ymarferol cyn misoedd oerach yr hydref a’r gaeaf lle mae’r defnydd o ynni yn uwch. Rydym yn barod i weithio gyda’r Llywodraeth i wireddu’r mesurau a amlinellir uchod fel ffordd ymlaen i sicrhau bod cymunedau Cymru yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”