Plaid Cymru’n addo i barhau’r frwydr dros fenywod WASPI sydd wedi eu ‘gadael ar ȏl'
Ben Lake yn gwneud addewid i ymgyrchwyr WASPI yng Nghastell Newydd Emlyn
Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd sicrhau iawndal i fenywood gafodd eu taro gan newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth yn flaenoriaeth ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, wedi i Lafur a’r Ceidwadwyr gael eu cyhuddo o gefnu arnynt.
Mae’r grŵp ymgyrchu Women Against State Pension Injustice (WASPI) wedi bod yn pwyso am iawndal i fenywod a aned yn y 1950au, sydd wedi cael eu amddifadu o filoedd o bunnoedd yn sgil newidiadau i’w hawliau pensiwn.
Nid yw maniffestos etholiad y Ceidwadwyr na Llafur yn cynnwys ymrwymiadau i ddigolledu menywod yn llawn, er gwaethaf y ffaith bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi’i chael yn euog o gamweinyddu am fethu â’u hysbysu’n briodol am newidiadau i’w pensiynau.
Mae maniffesto Plaid Cymru yn cefnogi taliadau iawndal o rhwng £3000 a £9950 i fenywod yr effeithir arnynt.
Wrth gwrdd ag ymgyrchwyr WASPI yng Nghastellnewydd Emlyn, dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Ceredigion Preseli Ben Lake;
“Mae Plaid Cymru wedi rhoi cefnogaeth gyson i WASPI yn y frwydr am iawndal i fenywod a anwyd yn y 1950au.
“Darganfuwyd bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu’n annheg wrth beidio â hysbysu menywod yn iawn am newidiadau i’w pensiynau. Mae’n siomedig nad yw Llafur na’r Torïaid yn fodlon unioni hyn os ydynt yn dod i rym ar 4 Gorffennaf.
“Rwy’n falch bod maniffesto Plaid Cymru, a lansiwyd yr wythnos hon, wedi ymrwymo’n hollol glir i ddarparu iawndal i fenywod sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol yn ariannol gan y sgandal hon.
“Mae’r merched hyn wedi dioddef blynyddoedd o anghyfiawnder, ac eto mae’r ddwy brif blaid yn parhau i wadu iawndal haeddiannol iddynt.
"Mae hyn yn effeithio ar filoedd o fenywod ym mhob etholaeth yng Nghymru. Yn syml iawn, doedd y pensiynau roedden nhw'n disgwyl eu derbyn pan fyddan nhw'n 60 oed ddim yno.
"Bydd ymgeiswyr Plaid Cymru yn sefyll gyda'r merched yma wrth iddyn nhw barhau i frwydro dros gyfiawnder, a rhoi pwysau ar bwy bynnag fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf yn San Steffan."