Mae Plaid Cymru heddiw (10 Gorffenaf), wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth San Steffan ar Farchnad Fewnol y DG.

Defnyddiodd Plaid Cymru eu hymateb i feirniadu’r ddeddfwriaeth arfaethedig fel ymyriad a phwerau datganoledig, yn ogystal â lleisio pryderon am union broses yr ymgynghori ar y cynigion.

Byddai papur gwyn y DG ar y Farchnad Fewnol, a gyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf, yn gweld San Steffan yn diffinio sut y byddai’r cenhedloedd datganoledig yn ymwneud â Llywodraeth y DG wedi Brexit. Mae’n cynnwys cynigion y byddai Plaid Cymru wedi eu disgrifio fel “cipio grym”.

Yn yr ymateb i’r ymgynghoriad, mae Plaid Cymru yn rhoi esiamplau rheoliadau adeiladu, sydd wedi amrywio’n sylweddol o reoliadau adeiladu Lloegr ers iddynt gael eu datganoli yn 2011. Fodd bynnag, mae’r Papur Gwyn yn honni y gallai agweddau amrywiol at reoliadau adeiladu fod yn rhwystr i brosiectau dylunio a chynllunio ledled y DG.

Mae’r Blaid hefyd yn beirniadu’r ffaith na roddwyd y cyfnod pedair wythnos o ymgynghori a’r papur gwyn gerbron gyda’i gilydd gan weinyddiaethau San Steffan a’r gweinyddiaethau datganoledig.

 Ar ran y blaid, dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Pedair wythnos a chyfres o gwestiynau parod dros yr haf pan nad yw’r Senedd yn eistedd o gwbl yw’r cyfan roddodd Llywodraeth San Steffan i’r bobl o ran ymgynghori ar newid sylfaenol yng nghyfansoddiad y DG.

“Mae’n edrych fel pe na bai Llywodraeth San Steffan yn gallu cuddio’u dirmyg i ddatganoli.

“Cipio grym yw hyn, a dim mwy. O gymryd yn ôl gymwyseddau sydd eisoes yn cael eu dal gan Gymru, i’r ffaith na chynigiwyd y ddeddfwriaeth hon ar y cyd gyda’r gweinyddiaethau datganoledig, mae Llywodraeth San Steffan yn erydu dwy ddegawd o ddatganoli.

“Fydd pobl ddim yn cael eu twyllo gan eiriau teg San Steffan am ychwanegu at ddatganoli, wnaiff y newidiadau hyn ond lleihau gallu Cymru i ffurfio ei llwybr ei hun.”