Byddai llywodraeth Plaid, pe bai’n cael ei hethol ar Fai 6ed, yn ymrwymo £500m i wella amddiffynfeydd llifogydd Cymru gan gefnogi’r cymunedau “a adawyd ar ôl gan Lafur” dros y blynyddoedd diwethaf.

Mewn ymrwymiad arloesol, dywedodd AS Plaid Cymru ar gyfer y Rhondda Leanne Wood fod stormydd mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dinistrio cartrefi yn ei chymuned, Pontypridd, ac mewn sawl ardal arall yng Nghymru o Llanrwst i Gaerffili.

Beirniadodd y Cynghorydd Heledd Fychan, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Pontypridd, Lafur am wrthwynebu ymchwiliad annibynnol i lifogydd difrifol yn y Cymoedd, gan ddweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cywiro “dull tameidiog” Llafur o atal llifogydd gyda buddsoddiad ystyrlon.

Dywedodd Leanne Wood o Blaid Cymru:

“Mae stormydd mawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dinistrio cartrefi mewn cymunedau ledled y wlad.

“Rydyn ni i gyd wedi tristhau o glywed y straeon torcalonnus y preswylwyr yn lleisio eu hofnau ynghylch mynd i gysgu yn y nos pryd bynnag y daw glawiad trwm rhag ofn bod eu cartrefi’n cael eu difrodi eto. Rhaid i hyn ddod i ben.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn buddsoddi £500m mewn lliniaru llifogydd, gan nodi a mynd i’r afael ag achos sylfaenol y broblem a rhoi diwedd ar ddull tameidiog Llafur o atal llifogydd.

“Byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar atal mewn canllawiau cynllunio, gan gydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau llifogydd difrifol yn fwy tebygol yn y dyfodol.”

Ailddatganodd ymgeisydd Etholiad Senedd Plaid Cymru ar gyfer Pontypridd, Heledd Fychan, sydd wedi arwain yr ymgyrch dros ymchwiliad cyhoeddus, ymrwymiad y blaid i ymchwiliad llawn a thryloyw:

“Mae angen mwy o ffocws hefyd ar reoli llifogydd yn naturiol, gan ddefnyddio technegau fel adfer mawndir a phlannu coetir newydd i reoli cadw dŵr yn yr ucheldiroedd.

“Dim ond cynllun buddsoddi radical ac ystyrlon fel yr un a gynigir gan Plaid Cymru fydd yn rhoi sicrwydd gwirioneddol i’r cymunedau a adawyd ar ôl gan Lafur.

“Byddem hefyd yn gweithredu lle mae Llafur wedi methu trwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i’r llifogydd eang a ddigwyddodd yn 2020 ledled Cymru a gweithredu ar ei argymhellion i roi’r atebion y maent yn eu haeddu i breswylwyr.”