Boris Johnson yn ymweld â Chymru i siarad am Loegr dan glo

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan,, Liz Saville Roberts AS, heddiw (Mercher 17 Chwefror) wedi beirniadu penderfyniad y Prif Weinidog i deithio 140 milltir o Lundain o Gwmbrân, Gwent i siarad am fesurau sy’n ymwneud yn unig â Lloegr.

Wrth siarad mewn canolfan frechu yng Nghwmbrân, dywedodd y Prif Weinidog y bydd cyfnod cloi Lloegr yn cael ei wneud fesul “cyfnod”, gan roi awgrym mai mannau croesawu fydd ymhlith y rhai olaf i ail-agor. Bydd cynllun Lloegr i adael y cyfnod cloi yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun, 22 Chwefror, tra cynhelir adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru ar ddydd Gwener 19 Chwefror.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS fod y “siwrne 140-milltir ddibwynt dros y ffin” i ganolfan yng Nghymru i siarad am faterion yn ymwneud â Lloegr yn “fwriadol yn creu dryswch am fesurau cloi ar gyfnod hollbwysig yn y pandemig.”

Holwyd y Prif Weinidog hefyd am ei sylwadau blaenorol lle soniodd fod datganoli yn “drychineb” – ac atebodd na fu’n drychineb “yn gyfan gwbl”.

Dywedodd Ms Saville Roberts fod “amddiffyniad llugoer” y Prif Weinidog o ddatganoli yn cael ei danseilio gan ei weithredoedd ei hun, gan iddo deyrnasu dros yr “ymgais fwyaf gan San Steffan i gipio grym ers dyfodiad”.

Ychwanegodd fod Cymru yn haeddu gwell na chael gwybodaeth gamarweiniol gan “beiriant cyhoeddusrwydd bostfawr” Boris Johnson.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Siwrne 140-milltir ddibwynt oedd hon dros y ffin i Gymru i wneud sylw cyhoeddus am faterion yn ymwneud yn unig â Lloegr. Rhaid iddo esbonio rhag blaen pam ei fod yn tybio ei bod yn briodol mynd ati’n fwriadol i greu dryswch ynghylch mesurau cloi ar gyfnod hollbwysig yn y pandemig.

“Mae amddiffyniad  llugoer Mr Johnson o ddatganoli yn cael ei danseilio gan ei weithredoedd. Prif Weinidog yw hwn sydd wedi teyrnasu dros yr ymgais fwyaf gan San Steffan i gipio grym ers dyfodiad datganoli ac y mae wedi gwrthod yn gyson â chefnogi mesurau cyfnod cloi Cymru gyda’r gefnogaeth ariannol sydd ei angen i beri eu bod yn gweithio.’

“Wedi blwyddyn o addo gormod a chyflwyno dim digon, mae pobl Cymru yn haeddu gwell na chael gwybodaeth gamarweiniol gan ei beiriant cyhoeddusrwydd bostfawr.”

Diwedd.