Mae angen pwerau ar Gymru i greu ‘system gyfiawnder fwy trugarog a mwy atebol’ - Liz Saville Roberts AS

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a’u llefarydd ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts AS, heddiw (15 Mawrth 2021) yn rhybyddio y bydd Mesur yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd yn “gwaethygu’r anghyfartaledd sy’n bod eisoes yn ein system cyfiawnder troseddol” ac yn galw am i bwerau dros gyfiawnder gael eu datganoli i Gymru er mwyn creu “system gyfiawnder fwy trugarog a mwy atebol.”

Mae’r Mesur, fydd yn derbyn ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, yn cyflwyno llu o newidiadau sylweddol i’r system cyfiawnder troseddol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi pwerau newydd ysgubol i atal protestiadau ac ehangu stopio a chwilio.

Bydd ASau Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y Mesur.

Yn ystod y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin, bydd Ms Saville Roberts yn dadlau bydd y Mesur:

  • Yn gwaethygu’r anghyfartaledd sydd eisoes yn bod yn ein system cyfiawnder troseddol.
  • Yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau Cymreig a chymhlethu ymhellach yr ymwneud rhwng polisïau datganoledig a rhai heb eu datganoli.
  • Yn dangos yn fwy nag erioed fod datganoli pwerau dros gyfiawnder yn hanfodol er mwyn cyflwyno system decach.

Bydd Ms Saville Roberts yn rhybuddio y bydd y Mesur yn “gwaethygu’r anghyfartaledd sydd eisoes yn bodoli yn ein system cyfiawnder troseddol” trwy ei “agwedd lymach at ddedfrydu”, mwy o bwerau stopio-a-chwilio a chyfyngiadau ar yr hawl i brotestio.

Yn dilyn ymateb llym yr Heddlu i wylnos er cof am Sarah Everard nos Sadwrn, bydd Ms Saville Roberts yn dweud bod “ymosodiad yr Ysgrifennydd Cartref ar yr hawl i brotestio” yn arwain at “ymyriadau mwy ymosodol”, a bydd yn cwestiynu syt y bydd atal hawliau ymhellach yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Bydd Ms Saville Roberts yn dweud y bydd y Mesur yn “rhoi mwy o straen ar y system yng Nghymru", yn hytrach na rhoi “agwedd gyfun sydd yn asio cyfiawnder gyda pholisïau iechyd, addysg a chymdeithasol”.

Bydd Ms Saville Roberts hefyd yn dweud, oherwydd bod gan Lywodraeth y DG  “fan gwan am ddatganoli”, y gallai’r Mesur “gymhlethu mwy ar lanast anghynaladwy” yr hyn y gellir ei alw yn ‘ymylon garw’ polisi  cyfiawnder yng Nghymru - ymwneud cymhleth meysydd datganoledig megis polisïau cymdeithasol, iechyd, addysg a datblygu economaidd, gyda chyfrifoldebau dros gyfiawnder yn cael eu cadw’n ôl.

Mae’r mesur yn cyflwyno ‘dyletswydd Trais Difrifol’, sy’n disgwyl i wasanaethau cyhoeddus lleol weithio ynghyd i leihau trais difrifol. Mae hefyd yn cyflwyno cynlluniau peilot ‘Llysoedd datrys problemau’ i fynd i’r afael â’r rhesymau dros droseddu, e.e., camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl a thrais yn y cartref. Fodd bynnag, nid yw'n eglur sut y bydd y mesurau hyn yn cael eu cyflawni yng Nghymru, lle mae pwerau wedi'u datganoli, neu sut y cânt eu hariannu.

Bydd AS Plaid Cymru yn ail-adrodd galwad ei phlaid am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder, gan ddadlau y byddai yn rhoi cyfle i greu “system gyfiawnder fwy trugarog a mwy atebol”.

Bydd Ms Saville Roberts yn dweud:

“Mae agwedd lymach y Mesur at ddedfrydu yn gam yn ôl, ac ni fydd yn gwneud dim ond gwaethygu’r anghyfartaledd sy’n bod eisoes yn ein system cyfiawnder troseddol.

“Gwyddom, er enghraifft, sut mae ymosodiad yr Ysgrifennydd Cartref ar yr hawl i brotestio yn arwain at ymyriadau mwy ymosodol - o’r wylnos yn Clapham ddydd Sadwrn, i Black Lives Matter a Gwrthryfel Difodiant. Rydym i gyd yn gwybod y bydd mesurau stopio a chwilio’r Bil yn targedu pobl ddu yn anghymesur. Rwy’n gofyn iddi - mewn gwirionedd - sut mae hi’n disgwyl i’r mesurau hyn fynd i’r afael ag anghydraddoldebau?

“Yn hytrach na rhoi i ni’r pwerau mae arnom eu hangen i greu agwedd gyfun sydd yn mynd ati i asio cyfiawnder gyda pholisïau iechyd, addysg a chymdeithasol, bydd y Mesur hwn yn rhoi mwy o straen ar y system yng Nghymru, ac yn arwain at ganlyniadau gwaeth i bawb.”

 yn ei blaen:

“Er gwaethaf ugain mlynedd o ddatganoli, erys pwerau dros gyfiawnder yn San Steffan - ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cyflwyno llawer o’r gwasanaethau cysylltiedig.

"Mae perygl y bydd mesurau newydd a gyhoeddir yn y Mesur hwn yn cymhlethu mwy ar lanast anghynaliadwy 'ymyl garw' polisi cyfiawnder Cymru. Mae mentrau fel 'llysoedd datrys problemau' yn gofyn am gydweithrediad agos gweithwyr y gwasanaeth prawf ac iechyd. Sut y byddant gael eu darparu yng Nghymru, lle mae pwerau dros iechyd wedi cael eu datganoli? Ac yn bwysig iawn, pa arian ychwanegol a gawn ni i’w cyflwyno?

“O gofio man gwan y Llywodraeth hon am ddatganoli, mae arna’i ofn fod y polisiau hyn eto fyth wedi eu cynllunio gan Loegr, i Loegr.”

“Gallem wneud cymaint yn well yng Nghymru pe bai gennym reolaeth briodol ar ein plismona a chyfiawnder troseddol. Gallem ddarparu system gyfiawnder fwy trugarog a mwy atebol - mewn cyferbyniad llwyr â’r cam yn ôl sydd yn cael ei gynnwys yn y Mesur hwn."