Mae bwriad Llywodraeth San Steffan i roi pwerau iddynt eu hunain dros seilwaith dŵr yng Nghymru trwy Fesur y Farchnad Fewnol yn adlais pryderus o foddi Tryweryn, medd Plaid Cymru.

Erys boddi pentref Capel Celyn yng nghwm Tryweryn ym 1965 i greu cronfa ddŵr i gyflenwi Lerpwl a Chilgwri yn ddigwyddiad o bwys yn hanes a diwylliant Cymru.

Boddwyd y pentref ym 1965 er i bob un ond un o ASau Cymru bleidleisio yn erbyn y bwriad.

Dros y blynyddoedd diwethaf, daeth murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud yng Ngheredigion i’r amlwg eto fel symbol arwyddocaol, gyda chopïau yn ymddangos ledled Cymru.

Bydd Mesur y Farchnad Fewnol sydd ar hyn o bryd yn cael ei wthio trwy Senedd y DG yn gweld llywodraeth San Steffan yn cymryd drosodd bwerau gwario mewn meysydd sydd wedi eu datganoli’n llwyr, gan anwybyddu Aelodau etholedig y Senedd. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys seilwaith dŵr.

Dywedodd arweinydd y Blaid yn San Steffan Liz Saville Roberts AS fod y ffaith fod San Steffan eisiau cymryd drosodd bwerau dros seilwaith dŵr yn dangos “lefel ryfeddol o anwybodaeth hanesyddol”. Aeth yn ei blaen i ddweud fod boddi Capel Celyn yn fodd i’n hatgoffa o’r hyn sy’n digwydd pan fod “San Steffan yn dal ei chwip dros Gymru.”

Mae Gweinidogion Llywodraeth San Steffan hefyd wedi cyfaddef y bydd y Mesur yn torri cyfraith ryngwladol yng nghyswllt Protocol Gogledd Iwerddon, sydd yn rhan o Gytundeb Ymadael Boris Johnson â’r UE.

Bydd Mesur y Farchnad Fewnol yn wynebu’r bleidlais gyntaf yn y Senedd heddiw. Mae Plaid Cymru, ynghyd â’r SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SDLP, y Gwyrddion a’r Gynghrair wedi cyflwyno gwelliant yn ceisio atal y Mesur rhag bwrw ymlaen. Ni ddywedodd y Blaid Lafur a fydd yn ymuno ai peidio â’r gwrthbleidiau eraill i wrthwynebu’r Mesur.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Gallwn weld arwyddocâd parhaol rheolaeth Cymru dros ddŵr yn amlygrwydd murluniau a delweddau ‘Cofiwch Dryweryn’ ar hyd a lled Cymru. Mae ymgais Mesur y Farchnad Fewnol i gipio pwerau dros y mater hwn yn adlais pryderus o’r weithred ysgeler o foddi Capel Celyn gan San Steffan, yn groes i ddymuniadau Cymru.

“Gwyddom y bydd y mesur hwn yn torri cyfraith ryngwladol, yn peryglu Cytundeb Gwener y Groglith, ac yn chwalu’r setliad datganoli, ond mae’r anwybodaeth hanesyddol o geisio pwerau dros seilwaith dŵr Cymru yn peri dychryn.

“Er iddo ddigwydd ddegawdau’n ôl, erys boddi Capel Celyn yn fyw yng nghof y genedl Gymreig, i’n hatgoffa o’r hyn sy’n digwydd pan fydd San Steffan yn dal ei chwip dros Gymru.

“Mae’n edrych fel petai San Steffan yn benderfynol nid yn unig o danseilio ein setliad datganoli, ond o anwybyddu yn ddigywilydd ein diwylliant a’n hanes.

“Bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r Mesur hwn bob cam o’r ffordd.”