Cymunedau gwledig wedi’u ‘cau allan yn fwriadol’ o gynllun Llywodraeth San Steffan – Plaid Cymru
Gweinidog Llywodraeth y DU yn ymateb drwy ddweud ei fod yn buddsoddi mewn cymunedau gwledig, gan gynnwys Gwlad yr Haf a Wiltshire
Mae Llinos Medi AS wedi beirniadu cynllun Balchder Bro Llywodraeth y DU am “gau cymunedau gwledig allan yn fwriadol” yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.
Cododd AS Plaid Cymru dros Ynys Môn y mater wrth holi’r Llywodraeth am ei rhaglen Balchder Bro sydd werth hyd at £5 biliwn dros 10 mlynedd. Mae’r cynllun yn cynnig bod ASau a chynghorwyr yn ymuno â byrddau cymdogaeth i ddatblygu strategaethau adfywio lleol mewn partneriaeth â neuaddau tref.
Bydd y brif raglen yn darparu hyd at £20 miliwn dros ddeng mlynedd i 250 o gymdogaethau “hyper-leol” o tua 10,000 o bobl yr un, a nodwyd gan ddefnyddio data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar amddifadedd ac angen cymunedol.
Yn etholaeth Ms Medi, Ynys Môn, dim ond Caergybi sy’n cyrraedd y trothwy poblogaeth hwn, gan amlygu cyrhaeddiad cyfyngedig y rhaglen mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yng Nghymru.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Llinos Medi AS:
“Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno’r rhaglen Balchder Bro fel buddugoliaeth i gymunedau ledled y DU. Ond mae ffocws y cynllun penodol hwn ar gymdogaethau o tua 10,000 o bobl.
“Ar Ynys Môn, dim ond un dref sy’n cyrraedd y trothwy poblogaeth hwnnw hyd yn oed. Nid yw hyn yn unigryw i’m hetholaeth i – mae’n wir ar draws llawer o Gymru.
“A all y Gweinidog egluro pam mae cymunedau gwledig yn cael eu cau allan yn fwriadol o’r rhaglen benodol hon?”
Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog:
“Madam Dirprwy Lefarydd, rydym yn buddsoddi mewn cymunedau gwledig – boed yn Ngwlad yr Haf, Wiltshire, neu rywle arall.
“Rydym wedi defnyddio metrigau clir yn seiliedig ar amddifadedd a’r Mynegai Anghenion Cymunedol i ganolbwyntio ar yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf.
“Ond fel y dywedais, mae hyn yn rhan o strategaeth fwy: grymuso cymunedau i adennill eu strydoedd mawr, cefnogi buddsoddiad gan lywodraeth leol, a gweithio gyda meiri rhanbarthol i yrru ffyniant economaidd. Mae cynllun ehangach i fuddsoddi ym mhob rhan o’r wlad.”
Pan wnaeth Llywodraeth y DU y cyhoeddiad gyntaf, dywedodd Arweinwyr Cyngor Plaid Cymru, Darren Price (Sir Gâr), Bryan Davies (Ceredigion), Nia Jeffreys (Gwynedd), a Gary Pritchard (Ynys Môn):
"Mae unrhyw gyllid ar gyfer cymunedau ledled Cymru i’w groesawu, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn deillio o ddealltwriaeth o anghenion Cymru. Mae'n fotwm panig gwleidyddol sydd wedi ei bwyso gan Lafur cyn etholiad anodd. Mae pobl Cymru yn gweld trwy hynny - maent eisoes wedi gweld bod Llafur wedi cefnu ar eu gwerthoedd a’u haddewidion i ddarparu cyllid teg i gymunedau Cymru.
"Mae'r rhaglen Balchder Bro yma’n targedu cymdogaethau â phoblogaethau o tua 10,000 yn benodol – dim ond llond llaw o’r rheini sydd yn y pedwar awdurdod lleol gorllewinol yr ydym yn eu rheoli. Mae hyn yn tynnu sylw at y ffordd mae’r Lywodraeth Lafur yn parhau i anwybyddu ein cymunedau gwledig sydd wedi cael eu tan-ariannu'n anghymesur dros y blynyddoedd, gyda nifer fawr o ardaloedd ledled Cymru yn disgyn o dan y trothwy hwn ac yn colli allan ar y gefnogaeth sydd yn fawr ei angen.
“Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn twyllo awdurdodau lleol yng Nghymru – o fethu â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, i gadw cynghorau yn y tywyllwch dros pam nad ydynt yn gymwys i gael cyllid o dan y rhaglen Balchder Bro. Dyma'r awdurdodau lleol sy'n ariannu ein hysgolion, yn darparu gofal cymdeithasol i'n hanwyliaid, ac yn cynnal ein mannau a'n cyfleusterau cyhoeddus. Nid yw’r llywodraeth hon o ddifri ynglŷn â chyflawni newid go iawn ar lawr gwlad.”