“Fel arwydd o barch i’r ymgyrchwyr, dylai’r Prif Weinidog ail-ystyried y dewis o eiriau a ddefnyddiodd ddoe” – Rhun ap Iorwerth AS

Mae Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn iddo dynnu sylwadau sy’n “camgyfleu” grŵp sy’n ymgyrchu dros gyfiawnder i deuluoedd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i COVID-19.

Yng Nghyfarfod Llawn y Senedd, nododd y Prif Weinidog fod y grŵp sy’n ymgyrchu dros gyfiawnder i’r rheiny a farwodd yng Nghymru o Covid, sef COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru, wedi "symud ymlaen" o fod eisiau ymchwiliad annibynnol penodol i Gymru. Ond roedd yr ymgyrchwyr yn gyflym i nodi ar Twitter bod y Prif Weinidog wedi “dweud celwydd”.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo dynnu yn ôl ei sylwadau oedd yn nodi bod yr ymgyrchwyr wedi “symud ymlaen”.

Yn ei lythyr, mae Mr ap Iorwerth yn nodi hefyd bod yr ymgyrchwyr yn teimlo bod y Prif Weinidog wedi awgrymu iddo ysgrifennu at Ymchwiliad Covid y DU i gefnogi cais y grŵp am statws Cyfranogwyr Craidd - honiad roedden nhw’n medru ei wrthbrofi’n syth trwy ddangos y llythyr a gawson nhw gan y Prif Weinidog sy’n cadarnhau na fyddai’n gwneud hynny.

Mae Mr ap Iorwerth wedi gofyn i’r Prif Weinidog “adlewyrchu” ar ei gyfraniad “trwy barch” at yr ymgyrchwyr sydd wedi “gwneud gwaith rhagorol yn casglu tystiolaeth yn y gobaith o gyrraedd y gwir mewn perthynas â’r ymateb i’r pandemig.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

Mae’r grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn flin iawn eu bod yn cael eu cam-gynrychioli gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Cyfarfod Llawn ddoe.

Dydyn nhw ddim wedi ‘symud ymlaen’ ac, fel fi, maen nhw’n parhau i fod yn argyhoeddedig y dylid craffu ar y penderfyniadau COVID-19 a wnaed yng Nghymru yng Nghymru. Tra bod rhai penderfyniadau wedi eu gwneud ar lefel y DU, mae llawer o’r ymateb i’r pandemig yma yng Nghymru wedi bod yn nwylo Llywodraeth Cymru, a’r unig ffordd i ddysgu gwersi o’r pandemig o ddifri fyddai cael ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru eu hunain.

Mae ’na awgrym hefyd fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu atyn nhw yn gynharach eleni yn cefnogi eu cais am statws cyfranogiad craidd, ac maen nhw wedi dangos bod hyn yn anghywir. Fel arwydd o barch i’r ymgyrchwyr, dylai’r Prif Weinidog ail-ystyried y dewis o eiriau a ddefnyddiodd ddoe.”