Blaenoriaethwch staff ysgolion ar gyfer brechiadau wrth i ysgolion ailagor meddai Plaid
Rhaid i ddiogelwch staff a disgyblion fod yn “flaenoriaeth” meddai Sian Gwenllian AS
Dylai Llywodraeth Lafur Cymru gefnogi galwadau i staff ysgolion gael blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn o fewn eu grwpiau oedran, meddai Plaid Cymru.
Dywedodd Sian Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru, fod yn rhaid i ddiogelwch staff ysgolion a phlant fod yn “brif flaenoriaeth” wrth i ysgolion baratoi i agor i fwy o blant yr wythnos hon.
Mae plant rhwng tair a saith oed yn cychwyn dychweliad graddol ddydd Llun, ynghyd â rhai myfyrwyr ar gyrsiau coleg.
Galwodd Ms Gwenllian ar y Llywodraeth i fod yn “gwbl dryloyw” gyda’r cyngor gwyddonol diweddaraf cyn dychwelyd unrhyw garfannau pellach a dywedodd y dylai fod yn barod i “gau ysgolion unigol yn gyflym" pe bai clystyrau’n dechrau ymddangos.
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Cysgodol y dylai mesurau diogelwch bwysleisio awyru adeiladau ysgolion yn ddigonol.
Bydd mwy o blant ysgolion cynradd a rhai o ysgolion uwchradd yn gallu dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb o 15 Mawrth, os bydd achosion Covid yn parhau i ostwng, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud.
Ychwanegodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg Sian Gwenllian AS,
“Rhaid i ddiogelwch staff a phlant yr ysgol fod yn brif flaenoriaeth wrth i ysgolion baratoi i agor i fwy o blant yr wythnos hon. Mae cael ein plant yn ôl i ddysgu wyneb yn wyneb yn hynod bwysig ond dylai'r data yrru hyn.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r Llywodraeth fod yn gwbl dryloyw gyda’r cyngor gwyddonol diweddaraf y mae’n ei gael cyn dychwelyd unrhyw garfannau pellach - ac yn barod i gau ysgolion unigol yn gyflym pe bai clystyrau’n dechrau ymddangos.
“Dylai’r Llywodraeth Lafur gefnogi galwadau’n llawn i staff ysgolion gael blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn o fewn eu grwpiau oedran. Dylai mesurau diogelwch bwysleisio awyru adeiladau ysgolion yn ddigonol.
“Yn y cyfamser, mae’r rhaniad digidol yn dal i fodoli ar gyfer y rhai sydd eto i ddychwelyd, a rhaid i’r Llywodraeth ddyblu ei hymdrechion i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cymryd rhan lawn yn eu gwaith ysgol.