“Dyw tlodi ddim yn dod i ben ar ôl yr ysgol gynradd” – y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gar

Gyda’r tymor Ysgol newydd ar fin cychwyn, mae Plaid Cymru wedi adnewyddu ei galwadau i ymestyn prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd.

Yn Lloegr, mae plant yn gymwys i gael prydiau ysgol am ddim dim ond os yw ei aelwyd yn cael budd-daliadau penodol, ond yng Nghymru, diolch i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae prydiau ysgol am ddim yn cael ei ymestyn i bob plentyn ysgol gynradd, gan ddechrau’r mis yma.

Fodd bynnag, mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, bob amser wedi bod yn glir mai “cam un” yw prydiau ysgol i blant cynradd ac amlinellodd ei weledigaeth o ymestyn y polisi hwn ledled Cymru yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid yn gynharach eleni.

Mae Adam Price wedi adnewyddu ei alwadau i hyn gael ei osod fel ymrwymiad cenedlaethol, gan ddweud:

“Mae cyflwyno prydiau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd yn adlewyrchu Plaid Cymru ar ei gorau. Fodd bynnag, rydym bob amser wedi dweud ein bod yn gweld cyflwyno prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd fel cam cyntaf ar y daith o’i ymestyn i bob oedran. I ni, nid yw'n fater o a ddylai hyn ddigwydd, ond pryd.

“Trwy ddechrau’r sgyrsiau ac amlinellu beth sydd angen digwydd i gyflwyno hyn ar draws pob ysgol, ac i bob oedran, gallwn gynllunio i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

“Dydw i ddim dan unrhyw gamargraff y bydd y gwaith hwn yn hawdd, ond does dim dwywaith ei fod yn angenrheidiol. Ni all plant dysgu heb fwyd maethlon yn eu boliau, ac nid yw hyn yn llai gwir mewn ysgolion uwchradd ag y mae mewn ysgolion cynradd.

“Rwy’n falch mai Cyngor a arweinir gan Plaid Cymru sy’n arwain y ffordd, ond wrth gwrs, y ffordd gyflymaf a thecaf o ymestyn y polisi hwn fyddai ei osod fel ymrwymiad cenedlaethol, wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru fel bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn elwa.

“Yn wyneb Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, fe fyddai’n dangos yn union sut y gallwn ni wneud pethau’n wahanol yng Nghymru.”

Dywedodd Arweinydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Cynghorydd Darren Price, nad yw tlodi’n dod i ben pan fydd plant yn cyrraedd yr ysgol uwchradd, a bod angen i sgyrsiau ddechrau nawr i wneud prydau ysgol am ddim i bawb yn bosibilrwydd yng Nghymru.

Gan ddefnyddio’r hyn y mae Awdurdodau Lleol wedi'i ddysgu o gyflwyno prydau am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd, mae Mr Price wedi cyhoeddi bod Cyngor Sir Gar yn barod i asesu'r hyn y byddai ei angen i ddosbarthu prydau am ddim i nifer uwch o ddisgyblion ysgolion uwchradd.

Dywedodd Cynghorydd Price:

“Yng Nghymru rydyn ni’n gwneud pethau’n wahanol – ac mae gan Blaid Cymru weledigaeth glir ar gyfer Cymru sy’n cynnwys rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant.

“Drwy dderbyn bod prydau ysgol gynradd am ddim i bawb yn gam pwysig i fynd i’r afael â thlodi plant, y cam rhesymegol nesaf yw dechrau meddwl sut y gallem gyflwyno hyn ar draws ysgolion uwchradd.

“Gallwn ddechrau sgyrsiau am sut rydym yn gwneud hyn drwy ddysgu o’r ymgyrch cyflwyno prydau ysgol am ddim i ysgolion cynradd. Wedi’r cyfan, nid yw tlodi’n dod i ben yn yr ysgol gynradd.

“Dyna pam mae angen i ni fod yn cymryd camau i asesu beth fyddai ei angen i gyflwyno i nifer uwch o ddisgyblion.

“Rydym yn falch o wneud unrhyw beth y gallwn ei wneud nawr i helpu i gynllunio ar gyfer cyflwyno’r polisi hwn yn y dyfodol – rydym wedi dysgu llawer ac wedi dod dros nifer o heriau i gyrraedd y targed o ddechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd. Ar y cyd â llywodraeth leol ledled Cymru rydym yn barod i gynnig arbenigedd a syniadau ynghylch sut y gallai hyn edrych mewn lleoliadau ysgol uwchradd.

“Yn Sir Gaerfyrddin, ffocws allweddol wrth i ni barhau â’r cyflwyniad presennol ar gyfer ysgolion cynradd fydd datblygu a chefnogi cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol drwy’r gadwyn gyflenwi, a thrwy hynny gefnogi busnesau lleol a helpu i ddiogelu swyddi yng nghanol argyfwng costau byw.”