Sian Gwenllian AS a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i sut mae Llywodraeth Cymru wedi delio â llanast graddio ysgolion a cholegau

Rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus i’r modd yr ymdriniwyd â Lefel Uwch, TGAU a BTEC eleni yn ol Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Sian Gwenllian AS.

Israddiwyd bron i hanner graddau myfyrwyr Safon Uwch Cymru oherwydd y system a ddefnyddiwyd i gyfrifo canlyniadau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon y byddai graddau a aseswyd gan athrawon bellach yn cael eu defnyddio yn hytrach na’r rhai a gynhyrchir gan algorithm yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn gan fyfyrwyr, athrawon a phleidiau’r wrthblaid yng Nghymru.

Yn y cyfamser, ar drothwy canlyniadau TGAU cyhoeddwyd y byddai canlyniadau BTEC a gyhoeddwyd gan fwrdd arholi Pearson yn cael eu dal yn ôl i'w ailraddio.

Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai’n gwneud datganiad pellach ar ‘adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau yn dilyn canslo arholiadau eleni’ maes o law.

Dywedodd Gweinidog Addysg Gysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian, mai dim ond ymchwiliad cyhoeddus fyddai’n sicrhauy tryloywder priodol oedd angen ar bobl ifanc gan bwysleisio na fyddai adolygiad ‘annibynnol’ yn llwyddo i “adeiladu hyder y cyhoedd yn ôl” yn y system fel yr awgrymwyd gan y Gweinidog Addysg.

 

Dywedodd Ms Gwenllian fod angen dysgu gwersi er lles holl ddisgyblion y dyfodol ac i gynnal hygrededd yn y Llywodraeth, llywodraethau'r dyfodol a'r sefydliadau sy'n ymwneud â'r llanast arholiadau.

Meddai Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Sian Gwenllian AS,

“Rwy’n galw am ymchwiliad cyhoeddus brys a llawn i’r modd yr ymdriniwyd â chanlyniadau arholiadau eleni.

“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â rhoi hyder i’r cyhoedd yna dylai’r Gweinidog Addysg gychwyn ymchwiliad cyhoeddus yn edrych i mewn i’r hyn a aeth o’i le - er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer newid yn y dyfodol. Rhaid i’r Llywodraeth bresennol a llywodraethau'r dyfodol allu dysgu gwersi o'r bennod diweddar hon o raddio cymwysterau a chanlyniadau arholiadau.

“Dechreuodd rhai o’r problemau ddod i’r amlwg yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Senedd ddydd Mawrth. Ond dim ond megis dechrau ydym ni mewn gwirionedd o ran deall beth yn union aeth o’i le ac rwy’n pryderu yn fawr nad yw ‘adolygiad’ y Gweinidog yn mynd i gyflawni’r lefel o graffu cyhoeddus sydd ei angen. Effeithiodd hyn ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru. Peided â chamddeall gymaint o bryder a gafodd ei achosi ac o’r herwydd dim ond ymchwiliad cyhoeddus fydd yn ddigonol yn y pendraw.

“Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn helpu i daro goleuni ar unrhyw fethiannau systemig y mae angen eu cywiro mewn ffordd gadarn a thryloyw, gan nodi bod y Llywodraeth wedi ymrwymo o ddifrif i ddysgu'r gwersi hyn.

“Yn y cyfamser, mae’n rhaid i’r Gweinidog weithio gyda’r proffesiwn i sicrhau system deg ar gyfer 2021.”