Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canfyddiadau ‘Operation Cygnus’ ar ôl i ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig yn y Senedd ddatgelu fod y weinyddiaeth Lafur wedi derbyn copi o’r adroddiad.

Ymarferiad efelychu oedd Operation Cygnus a gynhaliwyd ym mis Hydref 2016 i amcangyfrif effaith pandemig ffliw H2N2 damcaniaethol ar y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd Mr Price ei fod yn cytuno ag Ysgrifennydd Iechyd cysgodol y Blaid Lafur, Jonathan Ashworth AS, sydd wedi galw ar i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi’r un wybodaeth, ochr yn ochr â’r camau a gymerwyd.

Ym mis Ebrill, dywedodd Mr Ashworth “mae cwestiynau difrifol i weinidogion ynghylch pa wersi a ddysgwyd o ymarferiad pandemig Cygnus, a’r unig ffordd i’w hateb yw trwy gyhoeddi ei gasgliadau a’r camau a gymerwyd yn sgil hynny”.

Cyhuddwyd gweinidogion o gelu’r adroddiad a oedd, yn ôl pob sôn, yn dangos diffygion difrifol ym mharodrwydd y DG i ymdopi â phandemig.

Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:

"Gwyddom fod gan Lywodraeth Cymru gopi o ganfyddiadau Exercise Cygnus – rhaid iddynt yn awr gyhoeddi ei argymhellion.

“Fel y dywedodd ei gydweithiwr Llafur, mae’r cyhoedd yn haeddu ac angen gwybod er mwyn i ni ddysgu gwersi all ein helpu nawr.

“Rhaid i ni wybod yn union pa gamau penodol a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynllunio a pharatoi ein GIG yn well ar gyfer pandemig anorfod yng ngoleuni’r adroddiadau a’i ganfyddiadau.

“Nid yn unig y mae hyn yn ddiddorol i’r cyhoedd, mae er budd i’r cyhoedd wybod pa gamau a gymerodd Llywodraeth Cymru o ran CGP, seilwaith profi, cyfarpar allweddol a’u parodrwydd cyffredinol am bandemig byd-eang.

“Byddai’n rhagrithiol tu hwnt i Lafur ddweud un peth yn San Steffan, ond gwneud rhywbeth arall yng Nghymru lle mae ganddynt y gallu i wneud hynny. Gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gwrando ar ei gydweithwyr ac yn gwneud y peth cyfrifol a chyhoeddi casgliadau adroddiad Operation Cygnus a dderbyniwyd ganddynt.”