“Rwy’n gwybod nad y sefyllfa fel y mae hi yw’r gorau y gall fod i’n cenedl” – Rhun ap Iorwerth AS

Ar drothwy tymor newydd y Senedd, mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi rhybuddio am “aeaf caletach fyth” gan gyhuddo Llafur a’r Torïaid o “ddangos mwy o ddiddordeb mewn brwydro yn erbyn ei gilydd nac mewn brwydro dros Gymru.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai effaith y ffaith nad yw cyflogau yn dal i fyny â chostau byw, a biliau cyfleustodau yn dal yn uchel, eisoes yn peri pryder i’r rhan fwyaf o aelwydydd  yng Nghymru yn cael ei deimlo’n llymach fyth drios fisoedd y gaeaf wrth i fwy o ynni gael ei ddefnyddio.

Gyda phobl yn gweld “biliau’n codi, cyflogau go-iawn yn gostwng, a ffydd ym mharodrwydd y Llywodraeth i helpu yn prysur ddiflannu” cynigiodd  Mr ap Iorwerth amrywiaeth o fesurau y gellid eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn lliniaru effaith gwaethaf caledi, gan greu ysbryd newydd o optimistiaeth. Yn eu plith mae:

  • Ymestyn y Cynllun Cefnogi Biliau Ynni i atal mwy o aelwydydd rhag cael eu llusgo i dlodi tanwydd y gaeaf hwn.
  • Cyflogau teg fod bod gweithwyr yng Nghymru yn cael eu talu’n iawn.
  • Sicrhau y bydd budd-daliadau craidd yn wastad yn talu am gost hanfodion sylfaenol.
  • Cyflwyno Taliad Gwresogi’r Gaeaf waeth pa mor oer fydd y tywydd.
  • Gosod treth ffawdelw ar fanciau i dalu am gynllun arbed morgeisi.
  • Deddfu yng Nghymru i roi terfyn ar godiadau rhent annheg.

Wrth siarad cyn sesiwn gyntaf y Senedd ers gwyliau’r haf, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae ar Gymru angen i wleidyddion fod ar ei hochr hi pan fo pethau’n anodd. Rwy’n gwybod nad y sefyllfa fel y mae hi yw’r gorau y gall fod i’n cenedl, ac yn nhymor nesaf y Senedd byddaf yn brwydro dros Gymru decach, Cymru all gyflawni’r potensial sydd ganddi yn ddiamau.

“Y gwir yw ar hyn o bryd fod llanast y Toriaid a difrawder Llafur yn gweld biliau’n cynyddu, cyflogau mewn termau real yn gostwng, a ffydd pobl ym mharodrwydd y llywodraeth i helpu yn prysur ddiflannu.

“Craidd fy ngweledigaeth gadarnhaol i i Gymru yw mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Dyma’r amser tyngedfennol i fynd ati o ddifrif i geisio’r dyfodol gwell hwnnw i Gymru – dyma’r amser pan fo ar bobl fwyaf angen help.

“Fis diwethaf yn unig, rhybuddiodd Cyngor ar Bopeth fod y nifer uchaf erioed o bobl yng Nghymru a Lloegr eisoes yn chwilio am help gyda dyledion ynni hyd yn oed cyn i’r gaeaf daro, ac y bydd aelwydydd ar incwm isel sy’n ennill llai na £29k yn dioddef waethaf pan ddaw’r gaeaf.

“Wrth i’r tymor seneddol newydd gychwyn, mae rheidrwydd moesol ar lywodraethau Cymru a’r DG i ganolbwyntio ar baratoi cynllun cynhwysfawr i roi cefnogaeth i aelwydydd fydd yn ei chael yn anodd dros y misoedd i ddod.

“Rhaid i Lywodraeth y DG ymestyn y Cynllun Cefnogi Biliau Ynni, gosod treth ffawdelw ar fanciau er mwyn talu am gynllun arbed morgeisio, a thalu cyflogau teg yn y sector cyhoeddus. 

“Ar yr un pryd, dylai Llywodraeth Lafur Cymru ddeddfu’n syth i atal codiadau rhent annheg fel na fydd neb yn colli ei gartref y gaeaf hwn. 

“Yr ydym yn barod i gynnig help ac arweiniad i’n cymunedau ac i deuluoedd sy’n ei chael yn anodd, ond mae angen i lywodraethau wneud hynny hefyd.

“Bydd methiant i weithredu gan y naill lywodraeth a’r llall yn golygu y byddwn yn wynebu gaeaf o galedi dybryd, gyda mwy fyth o aelwydydd yn disgyn i dlodi, yn methu cael dau pen llinyn ynghyd, ac yn suddo’n ddyfnach fyth i ddyled.

“Wrth i’r Ceidwadwyr a Llafur ddangos mwy o ddiddordeb mewn brwydro yn erbyn ei gilydd na brwydro dros Gymru, bydd Plaid Cymru yn dal i wneud yr achos dros weithredu rhag blaen i helpu ein cymunedau trwy’r misoedd anodd sydd i ddod.”