“Hygrededd” datganoli yn cael ei “danseilio” oherwydd diffyg tryloywder ynglŷn â phenderfyniadau Covid

Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i ofyn am ddiweddariad brys ar safbwynt ei lywodraeth dros ffurfio Pwyllgor Diben Arbennig COVID-19.

Daw'r galwadau bedwar mis ers i'r Prif Weinidog nodi ei fwriad i ffurfio pwyllgor o'r fath am y tro cyntaf, a thair blynedd ers y cyfnod clo cyntaf - digwyddiad a nodwyd gan y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ar 23 Mawrth.

Mae'r llythyr, sydd wedi'i lofnodi gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS a llefarydd y blaid dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS, yn nodi yr "anghysondeb amlwg" mewn dulliau Llywodraeth Cymru, wrth "fynnu ei hawl i 'wneud pethau'n wahanol' o ran dewisiadau polisi yng Nghymru ar un llaw, tra'n honni bod ymchwiliad cyffredinol yn y DU i ganlyniadau'r dewisiadau hyn yn ddigonol ar y llaw arall."

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS:

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru - yn gwbl briodol - y liferi datganoledig sydd ar  gael iddynt i fabwysiadu ymateb wedi'i deilwra i'r pandemig. Roedd y dull mwy gofalus yma yng Nghymru, wedi’i selio ar dystiolaeth, yn wrthgyferbyniad llwyr i’r anghysondebau ysgubol mewn ymateb Llywodraeth y DU yr ydym bellach yn gwybod a oedd â mwy o ddiddordeb mewn partïon na chadw pobl yn ddiogel.

Ond mae mynnu'r hawl i 'wneud pethau'n wahanol' yma yng Nghymru yn mynd yn gwbl groes i wrthodiad Llywodraeth Cymru i fod yn atebol, yn agored a thryloyw.

Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gydnabod hyn yn gynnar a gweithredu'n bendant i sefydlu Ymchwiliad i'r Alban. O ystyried bod pwerau datganoledig yr Alban dros iechyd yn ei hanfod yn union yr un fath â'n rhai ni, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthod i ymrwymo i atebolrwydd priodol yn peryglu tanseilio hygrededd datganoli.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd a gofal:

Ers dyddiau cynnar y pandemig, mae Plaid Cymru, ynghyd ag ymgyrchwyr dros deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru, wedi galw am benderfyniadau a gwnaed yng Nghymru i gael eu craffu arno yng Nghymru.

Ond hyd yn oed wrth i Gadeirydd Ymchwiliad y DU cyfaddef na fydd pob penderfyniad a gwnaed yng Nghymru yn cael eu cynnwys mewn ymchwiliad y DU – a gan hynny yn cyfiawnhau ein galwadau - mae Llafur yng Nghymru yn parhau i oedi. Maen nhw'n mynnu mai aros i ymchwiliad y DU ddod i ben yw'r ffordd gywir o weithredu.

“Fel y mae'r drafodaeth ddiweddar dros Ffliw Adar wedi dangos, ni allwn oedi, ac ni ddylem ganiatáu i gymaint o gwestiynau aros heb eu hateb. Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi'r pandemig nawr, tra bod atgofion yma yng Nghymru yn dal i fod yn glir, er mwyn ein galluogi i fod mewn sefyllfa well os bydd pandemig byd-eang arall.”