Mae cwestiynau'n parhau o amgylch gweithredoedd y Prif Weinidog, ond eto mae'n parhau i osgoi craffu.
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i'r dystiolaeth a roddwyd gan Vaughan Gething i'r sesiwn Craffu ar y Prif Weinidog a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf.
Roedd y sesiwn yn cynnwys cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dilyn datblygiadau pellach yr wythnos hon ynghylch diswyddo cyn-Weinidog Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn, sydd wedi'i chyhuddo gan y Prif Weinidog o ryddhau negeseuon gan Vaughan Gething i’r wasg.
Yn dilyn y sesiwn graffu, dywedodd aelod Plaid Cymru, Llyr Gruffydd AS:
"Roedd braidd yn eironig bod Vaughan Gething wedi gwneud popeth posib yn sesiwn craffu'r Prif Weinidog, er mwyn osgoi craffu.
"Mae dau gyfrif sy'n gwrthdaro o hyd yn ymwneud â negeseuon honedig a ddatgelwyd ac mae'r Prif Weinidog yn parhau i ochri cwestiynau pwysig. Pam wnaeth e ddileu negeseuon, yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru a pham na wnaeth e roi negeseuon i ymchwiliad Covid y DU?
"Po hiraf y mae'r Prif Weinidog yn gwadu'r sgandal sydd o'i gwmpas, yr hiraf y mae pobl Cymru'n dioddef achos diffyg gallu ei lywodraeth Lafur."