Plaid Cymru yn canfod nad oes unrhyw ohebiaeth swyddogol wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar brosiect ‘East-West Rail’

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi amlygu nad oes unrhyw ohebiaeth swyddogol wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn ag ailddosbarthu prosiect ‘East-West Rail’.

Datgelodd yr ymateb i’r cais, a oedd yn gofyn am yr 'holl ohebiaeth weinidogol' ar ailddosbarthu’r prosiect ‘East-West’, nad yw'r wybodaeth yma 'yn cael ei ddal gan Lywodraeth Cymru'.

Ers iddo ddod yn hysbys bod Llywodraeth Lafur y DU wedi ailddosbarthu prosiect ‘East-West Rail’, mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson bod Llywodraeth Lafur Cymru yn cymryd Cymru’n ganiataol – a hynny am eu bod wedi gwrthod sefyll i fyny’n erbyn penderfyniad Keir Starmer i gymryd ‘arian oddi wrth Cymru’.

Mae penderfyniad Lywodraeth Lafur y DU i ailddosbarthu'r prosiect rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt fel 'prosiect Cymru a Lloegr' yn golygu bydd Cymru yn colli cyllid canlyniadol ar gyfer y prosiect, sydd yn cael ei amcangyfrif i fod oddeutu £360 miliwn yng nghyfnod yr adolygiad gwariant hwn.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths, wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o flaenoriaethu teyrngarwch pleidiol dros frwydro am 'y miliynau sy'n ddyledus i Gymru'.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths AS:

“Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi dewis amddifadu Cymru o gannoedd o filiynau drwy ailddosbarthu prosiect ‘East-West Rail’ fel prosiect ‘Cymru a Lloegr’ - ac mae’r FOI yma’nn dangos unwaith eto fod Llafur yng Nghymru wedi dewis gwneud dim am y peth.

“Mae daearyddiaeth yn brawf na fydd y prosiect yma o fudd i Gymru - mae’n enghraifft amlwg arall lle nad yw Cymru’n derbyn yr arian sy’n ddyledus i ni.

"Dywedodd Llafur y byddai eu 'partneriaeth mewn pŵer’ o fudd i Gymru. Ond eto, pan mae Keir Starmer yn penderfynu cymryd arian oddi wrth Gymru, mae Llafur yng Nghymru yn ddistaw - gan roi plaid cyn gwlad unwaith eto.

“Ymddengys nad yw Eluned Morgan hyd yn oed yn barod i anfon e-bost i ofyn am y miliynau sy'n ddyledus i Gymru, er mwyn peidio mynd yn erbyn ei phlaid ei hun.

"Mae amser ar ben i’r Llywodraeth Lafur hon sydd wedi cymryd Cymru yn ganiataol am llawer rhy hir. Mae 2026 yn cynnig cyfle i bobl Cymru ethol llywodraeth a fydd wastad yn mynnu fod Cymru yn derbyn yr hyn sy'n ddyledus i ni, drwy ethol Llywodraeth Plaid Cymru."