Cafodd cynnig Plaid Cymru yn galw i Gymru dderbyn cyllid canlyniadol o HS2 wedi cael ei bleidleisio i lawr gan Aelodau Llafur yn y Senedd.

Heddiw (dydd Mercher, Mawrth 12fed), mae Llafur wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru roedd yn galw ar Gymru i dderbyn arian canlyniadol llawn o brosiect HS2, sydd wedi ei amcangyfrifir i fod yn £4 biliwn.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo ASau Llafur o bleidleisio yn erbyn tegwch, ac wedi cyhuddo Llafur o rwyfo nôl ar bolisi'r Llywodraeth.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths, wedi dweud y byddai'r biliynau o bunnau y dylai Cymru dderbyn o HS2 yn 'drawsnewidiol', a gall helpu greu 'system drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif'.

Mae Mr Owen Griffiths wedi cyhuddo Grŵp Llafur y Senedd o fod 'ym mhocedi' Llafur y DU, sy'n brwydro i 'gadw ochr Keir Starmer' yn hytrach nag 'ymladd dros Gymru'.

Parhaodd drwy gyhuddo Eluned Morgan a'i grŵp o gymryd pobl Cymru yn ganiataol, a dywedodd fod Cymru angen Llywodraeth sy'n barod i fynd yn groes i'r duedd o 'wrando ar eu penaethiaid yn Llundain'.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths:

"Mae pob un o Aelodau Llafur yn y Senedd, wedi ymgyrchu o'r blaen, neu o leiaf wedi pleidleisio, dros gyllid canlyniadol HS2, heddiw wedi pleidleisio yn erbyn hyn heddiw. Pleidleisiodd nhw yn erbyn biliynau o bunnoedd mewn arian seilwaith rheilffyrdd, pleidleisiodd nhw yn erbyn tegwch, yn erbyn yr hyn a oedd yn bolisi Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

"Mae rheilffyrdd Cymru a'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach yng Nghymru angen buddsoddiad i gynnal a chadw a gwella ein hisadeiledd, mae angen y cyllid hwn ar ein seilwaith dyddiedig a'n gwasanaethau diffygiol. Mae pobl Cymru yn haeddu system drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, ond pleidleisiodd Llafur yn erbyn cyflwyno'r swm trawsnewidiol hwn o gyllid."

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru bellach yn gadarn ym mhocedi eu cydweithwyr yn Llundain. Mae pobl Cymru'n gweld trwy 'partneriaeth mewn pŵer', fel mae Llafur yn ei alw, gan weld nad yw'n ddim ond geiriau gwag. Fe fyddan nhw'n brwydro i gadw ochr Keir Starmer cyn iddyn nhw ymladd dros Gymru - pob tro.

“Mae'r Prif Weinidog a'i phlaid yn rhwyfo yn ôl ar bolisi'r Llywodraeth, ar draul yr hyn sy'n ddyledus i Gymru, gan barhau i gymryd pobl Cymru yn ganiataol. Mae hyn i'r gwrthwyneb i'r arweinyddiaeth sydd ei angen ar Gymru. Mae angen Llywodraeth Plaid Cymru, Llywodraeth fydd yn mynd yn groes i'r duedd o 'wrando ar eu penaethiaid yn Llundain'.”