Plaid Cymru i orfodi pleidlais ar HS2 yn y Senedd
Bydd Plaid Cymru yn gorfodi Llywodraeth Lafur Cymru i bleidleisio ar gyllid canlyniadol llawn o HS2 gan eu cydweithwyr yn Llundain.
Dydd Mercher, Mawrth 12fed, bydd y Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar gynnig Plaid Cymru sydd yn galw ar y Llywodraeth Lafur i gefnogi ail-ddynodi HS2 fel prosiect Lloegr yn-unig, ac i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynnu cyllid canlyniadol llawn o brosiect HS2.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, fydd yn arwain y ddadl, fod rheilffyrdd Cymru wedi eu 'hamddifadu o gyllid ers degawdau', gan roi'r bai ar Lywodraethau Llafur a Cheidwadol am hyn. Mae'n honni na fydd rheilffyrdd Cymru fyth yn cyrraedd eu llawn botensial heb y cyllid hwn.
Mae'r AS yn feirniadol o Lywodraeth Lafur y DU, ac yn cyfeirio at adroddiad o 2020 gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi eu bod yn wynebu 'diffyg rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn mewn cyllid rheilffyrdd' dros y cyfnod rhwng 2019 a 2029.
Dywedodd Mr Owen Griffiths mai bwriad ei blaid yw mynnu bod Llafur yn 'gwneud safiad', ac mae'n dweud eu bod wedi methu gwneud hyn ers i Lywodraeth Lafur y DU ddod i rym.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Peredur Owen Griffiths:
"Mae Cymru wedi cael ei hamddifadu o gyllid gan San Steffan ers degawdau, ac nid oes unman y mae hyn yn cael ei ddangos yn well nag yn ein rheilffyrdd. Mae gan ein rheilffyrdd y potensial i fod yn gymaint mwy na'r seilwaith dyddiedig a'r gwasanaethau hwyr a welwn ar hyn o bryd. Ond, heb y biliynau o bunnoedd mae Llywodraethau Llafur a Thorïaidd y DU yn gwrthod rhoi i ni, bydd ein rheilffyrdd byth yn gwireddu eu potensial."
“Pan ddaeth Llafur i rym yn San Steffan, addawyd newid i ni, fe wnaethon nhw alw gyda ni am ein cyfran deg o gyllid rheilffyrdd ac am y £4BN o HS2. Mae'n amlwg nawr nad oedd hynny ddim mwy na slogan etholiadol. Nid oes gennym unrhyw arian HS2, ac ar ben hynny, bydd ein rheilffyrdd yn dal i gael eu tanariannu i fyny at £5BN rhwng 2019 a 2029.
“Mae Plaid Cymru yn dod â'r cynnig hwn i'r Senedd i fynnu bod Llafur yng Nghymru yn gwneud safiad. I sefyll dros Gymru, i sefyll dros gyllid teg, ac i sefyll i fyny yn erbyn eu penaethiaid yn Llundain, rhywbeth maent wedi methu gwneud dros y saith mis diwethaf.
"Dim ond Plaid Cymru sy'n sefyll dros ein harian HS2 coll, dros gyllido teg, a dros Gymru."