Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, heddiw wedi datgelu cynllun ei blaid ar gyfer “adferiad ar frys" yn sgil pandemig Covid, gan amlinellu cynlluniau i greu mwy na 60,000 o swyddi trwy ysgogiad seilwaith carbon isel.

Addawodd Mr Price “ffocws di-ildio ar amddiffyn bywoliaethau” mewn cynllun 8 pwynt a oedd yn canolbwyntio ar syniadau ffres a blaenoriaethau newydd.

Gydag addewid i sicrhau adferiad ôl-bandemig sy’n gweld Cymru’n “gweithio’n gyflymach ac yn ddoethach" nac erioed byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwarantu cyflogaeth i bobl ifanc 16 i 24 oed, yn adeiladu miloedd o gartrefi newydd gwyrdd ac yn blaenoriaethu busnesau Cymraeg bach a chanolig. 

Ychwanegodd Adam Price y dylid bod wedi dwyn y llu o fesurau “uchelgeisiol ond cyrhaeddadwy" flynyddoedd yn ôl pe bai Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos mwy o frys i adeiladu economi gref.

Wrth gyhoeddi'r Cynllun Adferiad Cyflym Ail-Adeiladu Cymru - meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

"Yng nghysgod y pandemig economi Cymru yn wynebu ei her fwyaf ers cenhedlaeth. Wrth edrych ar y tueddiadau diweddaraf ac yn unol â rhagolygon y Deyrnas Gyfunol, mae diweithdra yng Nghymru yn mynd i gyrraedd 120,000 erbyn yr haf. Mae angen strategaeth economaidd amgen ar Gymru fydd yn rhoi ein pobl mewn gwaith er mwyn adeiladu dyfodol gwell.

“Byddwn yn dysgu gwersi ac yn sicrhau bod yr adferiad ar ôl pandemig yn gweld Cymru’n gweithio’n gyflymach ac yn ddoethach nac yn ystod yr ymateb i'r pandemig - gyda ffocws di-ildio ar amddiffyn bywoliaethau.

"Mae hon yn gyfres uchelgeisiol o fesurau cyrhaeddadwy y dyle bod wedi'u cyflwyno flynyddoedd yn ôl pe bai Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos mwy o frys i adeiladu economi gadarn.

"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd camau ar unwaith i gynllunio a chyflenwi ysgogiad isadeiledd carbon-isel ar frys. Amcangyfrifir bydd rhaglen buddsoddi £6 biliwn o bunnoedd i gefnogi adferiad economaidd Cymru yn dilyn Covid-19 yn creu bron i 60,000 o swyddi yn y tymor byr, gan ddod â gweithwyr a gollodd eu swyddi oherwydd yr argyfwng Covid yn ôl i’r gweithlu.

"Gallai'r rhain gynnwys adeiladu miloedd o dai cymdeithasol newydd, ôl-osod dros gan mil o gartrefi i’r safonau amgylcheddol uchaf, ehangu a trydaneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, a darparu'r band eang cyflymaf i bob rhan o Gymru.

"Byddem yn gwarantu cyflogaeth sicr, gyda Chyflog Byw yn isafswm ar gyfer pob person rhwng 16-24, cynnig benthyciadau hir-dymor ar gyfradd llog o sero a rhaglen ailsgilio sy'n rhoi lwfans ailhyfforddi o £5,000 i'r rhai a ddiswyddwyd yn ddiweddar.

"Byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn gweithredu polisi caffael newydd o 'lleol yn gyntaf' i roi blaenoriaeth i fusnesau lleol bach a chanolig eu maint - gan osod targed o gynyddu cyfran caffael cyhoeddus cwmnïau o Gymru o 52% i 75% gan greu hyd at 46,000 o swyddi.


Darllena'r cynllun llawn fan hyn