Rhaid gweithredu ar frys i warchod etholiadau mis Mai rhag ymyrraeth Rwsiaidd - Ben Lake AS

Mae AS Plaid Cymru dros Geredigion Preseli, Ben Lake, wedi beirniadu Reform UK am fod yn “absennol” o ddadl seneddol am ymyrraeth Rwsiaidd, yn dilyn carcharu eu cyn-arweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, am “frad.”

Wrth siarad mewn dadl yn Neuadd San Steffan ar ddydd Llun (9 Chwefror), dywedodd Mr Lake fod graddfa’r pryder wedi’i adlewyrchu yn y ffaith mai yng Nghymru yr oedd y niferoedd uchaf o’r rhai a lofnododd y ddeiseb a roes fod i’r ddadl.

Mae ei sylwadau yn dilyn carcharu Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, a ddedfrydwyd i 10 mlynedd a hanner yng ngharchar wedi cyfaddef derbyn llwgrwobrwyon yn gyfnewid am hyrwyddo safbwyntiau o blaid Rwsia mewn areithiau a chyfweliadau gyda’r cyfryngau tra bu’n Aelod o Senedd Ewrop.

Rhybuddiodd Mr Lake y gallai etholiadau’r Senedd sydd am ddigwydd ym mis Mai gael eu cynnal dan gyfreithiau nad ydynt eto’n ddigon cryf i atal ymyrraeth dramor. Anogodd Lywodraeth y DG i weithredu rhag blaen i roi ar waith gamau newydd i warchod democratiaeth y DG.

Mae disgwyl i’r adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DG i ymyrraeth wleidyddol dramor ddatgelu ei ganfyddiadau ym mis Mawrth. Dywedodd Mr Lake wrth ASau, er na fydd modd, o bosib, pasio deddfwriaeth newydd cyn etholiadau yng Nghymru a mannau eraill yn y DG ym mis Mai, fod yn rhaid i weinidogion fod yn barod i weithredu’n syth unwaith i’r adolygiad gael ei gyhoeddi.

Rhybuddiodd y byddai methu â gwneud hyn yn gadael etholiadau’r dyfodol yn agored i ymyrraeth gudd, gan gynnwys y defnydd o strwythurau ariannol  nad ydynt yn  dryloyw er mwyn sianelu arian tramor i ddadleuon gwleidyddol y DG.

Galwodd Mr Lake hefyd am graffu fel mater o frys ar dyllau dianc yn y gyfraith fel y mae, gan gynnwys defnyddio partneriaethau cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru; rhybuddiodd fod y rhain wedi eu hecsploetio i sianelu arian tramor i wleidyddiaeth y DG. Anogodd weinidogion i sicrhau yr archwilir y mecanweithiau hyn yn llawn fel rhan o’r adolygiad.

 

Wrth siarad yn San Steffan, dywedodd Ben Lake AS:

“Cymru yw un o’r ardaloedd  lle gwelwyd y nifer uchaf o lofnodwyd ledled y DG. Ni fydd yn syndod i neb mai’r rheswm dros y diddordeb hwnnw a lefel y pryder yng Nghymru yw misdimanars a brad cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, Mr Nathan Gill. Fel y crybwyllwyd, fe’i carcharwyd am 10 mlynedd a hanner am dderbyn llwgrwobrwyon gan Rwsia gwerth tua £40,000 am wneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop ac i’r cyfryngau. Fel y cytuna pawb, gobeithio, cyflawnodd y dyn frad am £40,000, felly rhaid i ni ofyn cwestiynau difrifol am ei uniondeb a gonestrwydd ei blaid – a sylwaf fod eu haelodau hwy yn absennol o ddadl heddiw.

“Rwyf am wneud dau bwynt yn fras. Y cyntaf yw esbonio pam ei bod mor bwysig na ddylem wastraffu unrhyw amser cyn rhoi ar waith gamau i ymateb i ganfyddiadau’r adolygiad y galwodd y Llywodraeth amdano ac a gychwynnwyd ganddynt. Deallaf y cyhoeddir canfyddiadau’r adroddiad ym mis Mawrth. Erfyniaf ar Weinidogion y Llywodraeth i sicrhau y gweithredir ar y canfyddiadau cyn gynted ag sydd modd, er mwyn diogelu gonestrwydd ein democratiaeth. Gwaetha'r modd, efallai na fydd modd gweithredu unrhyw newidiadau deddfwriaethol mewn pryd ar gyfer yr etholiadau yng Nghymru a rhannau eraill o’r DG ym mis Mai eleni. Serch hynny, mae’n bwysig na fyddwn yn gwastraffu amser o gwbl fel nad yw unrhyw etholiadau yn y dyfodol yn dod dan ddylanwad melltith ymyrraeth o Rwsia mewn unrhyw fodd.

“Gofynnaf i’r Gweinidog, fel rhan o ystyriaethau’r adolygiad, ein bod yn edrych ar y tyllau dianc rhyfeddol yn ein cyfreithiau presennol y llwyddodd gwladwriaeth Rwsia i’w hecsploetio trwy sianelu arian drwodd at gymeriadau gwleidyddol a bradwyr yn y DG at eu dibenion eu hunain. Hoffwn dderbyn sicrwydd ganddo mai un ddyfais a mecanwaith yr edrychir iddo yw creu partneriaethau cyfyngedig Cymreig. Mae’n bwnc fu’n destun gwaith manwl gan niferoedd o newyddiadurwyr ymchwiliol, a hoffwn yn fawr glywed fod y Llywodraeth yn dweud eu bod yn edrych i mewn i hyn. Mae dyfeisiadau o’r fath yn cael eu creu ym Moscow yn Rwsia ac yn cael eu defnyddio wedyn i gyfeirio arian i’n disgwrs wleidyddol ac at wleidyddion sy’n ceisio ymyrryd a dylanwadu ar ein dadleuon mewn ffyrdd difrïol sy’n anodd iawn i ni eu canfod, neu o leiaf nad yw’n hawdd i’r Comisiwn Etholiadol ac awdurdodau eraill i weithredu yn eu herbyn yn effeithiol.

“Terfynaf trwy ddatgan pam bod hyn mor bwysig. Mae’r wladwriaeth Rwsiaidd yn  ceisio targedu cymdeithas a democratiaeth yng ngwledydd y gorllewin. Ni ddylem fod mor ddiniwed â thybio nad yw hynny’n digwydd yma yn y DG.

“Daeth yr adolygiad amddiffyn strategol ym mis Mehefin  llynedd i’r casgliad ein bod yn dioddef ymosodiadau dyddiol. Wrth sôn am ymyrraeth wleidyddol, boed o Rwsia, Iran neu Tseinia, petae’n dod i hynny, dylem osod hynny yng nghyd-destun ehangach tactegau rhyfela hybrid eraill. Rhaid i ni ystyried, er bod y gwledydd hynny o bosib yn boddi ein cyfryngau cymdeithasol â chamwybodaeth a gynhyrchwyd gan fyddinoedd o bots, neu geisio rhoi llwgrwobrwyon uniongyrchol i rai ffyliaid parod yn ein hamgylchedd wleidyddol, maent yn braenaru’r ffordd i danseilio ac erydu hyder mewn sefydliadau gwleidyddol ac awdurdodau fel ein bod hyd yn oed yn fwy agored  i’r ymosodiadau uniongyrchol y gallant eu lansio, fel yr achosion enbyd o wenwyno yng Nghaersallog yn ôl yn 2018, y tannau a gynneuwyd yn  fwriadol yn 2024 neu yn wir y bygythiad dyddiol bron a ddaw o du’r llongau ymchwil dirgel o Rwsia i’n seilwaith hanfodol dan wely’r môr.

“Trwy ganiatáu i ymyrraeth wleidyddol barhau, rydym mewn perygl o danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein sefydliadau oll ac yn wir, gonestrwydd ein gwleidyddiaeth yn ei gyfanrwydd.”