Tra bod Reform UK wedi addo i gael gwared a Net Sero, mae Plaid Cymru wedi gosod allan ei tharged uchelgeisiol o 2040 – gan addo i roi cymunedau Cymru wrth galon ei pholisi ynni. 

Ymhen ymweliad i Dyrbin Gwynt Cymunedol Cwm Arian yn Sir Benfro – prosiect ynni cymunedol sydd yn ail-fuddsoddi elw yn ôl i’r gymuned leol, mae Plaid Cymru wedi dweud byddai ei chynlluniau i gyrraedd annibyniaeth ynni a Net Sero erbyn 2040 yn buddio cymunedau ar draws Cymru – tra bod Reform UK eisiau mynd a Chymru yn ôl.

Yn ei maniffesto i etholiad y Senedd ar Fai’r 7fed, mae Plaid Cymru yn gosod allan ei chynlluniau i ddatgloi potensial Cymru mewn ynni adnewyddadwy tra hefyd yn cefnogi cymunedau lleol:

  • Datblygu Strategaeth Ynni Cenedlaethol, sy'n mapio anghenion ynni presennol a dyfodol Cymru ac yn nodi cynllun clir, hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i'w cyrraedd.
  • Creu Bargen Sector Ynni Adnewyddadwy newydd fydd yn cydlynu gweithredu rhwng y llywodraeth, y diwydiant ynni adnewyddadwy, addysg bellach ac uwch, cymunedau, ac undebau llafur, wrth ddarparu gofynion cynllunio cliriach ac amserlenni cydsynio cadarn, rhagweladwy ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy
  • Creu un cwmni ynni cenedlaethol cryfach gyda mwy o ddylanwad, mwy o allu i dyfu perchnogaeth gymunedol o ynni adnewyddadwy, a chylch gwaith clir i helpu i leihau biliau ynni dros y tymor canolig i'r tymor hir.
  • Creu Cronfa Cyfoeth Cymru, gan gasglu cyfran deg o'r elw o ynni adnewyddadwy Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau a arweinir gan y gymuned mewn meysydd fel tai ac ynni.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Geredigion Penfro, Cris Tomos, fod ceisio annibyniaeth ynni fwy yn “hanfodol” o ystyried ansicrwydd cynyddol fyd-eang.

Ychwanegodd Cefin Campbell, ymgeisydd Plaid Cymru dros Sir Gaerfyrddin, fod uchelgais ei blaid i “ddatgloi potensial Cymru” yn cyferbynnu’n llwyr gyda safbwynt gwrth-ynni adnewyddadwy Reform UK a’i gwadu o’r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Cris Tomos,

“Mewn byd cynyddol ansicr, mae ceisio annibyniaeth ynni mwy ddim yn opsiwn – mae’n angenrheidiol.

“Mae polisïau’r ddwy lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a Llundain wedi gweld datblygiadau ynni adnewyddadwy a chynnydd tuag at Net Sero yng Nghymru yn arafu. Mae Reform eisiau cael gwared a thargedau Net Sero’n gyfan gwbl.

“Targed Net Sero Plaid Cymru yw’r fwyaf uchelgeisiol o unrhyw blaid sy’n cystadlu’r etholiad hwn, ac mae’n mynd llaw yn law gyda pholisïau ynni a fyddai’n grymuso'n cymunedau a chyflymu datblygiadau.

“Byddwn yn harneisio potensial Cymru i’n gwneud yn arweinydd y byd mewn ynni adnewyddadwy, gwthio i ddatganoli Ystâd y Goron a sicrhau mae ein cymunedau ni sydd yn buddio o’n hadnoddau naturiol – yn debyg i sut mae’r elw o dyrbin gwynt cymunedol Cwm Arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r prosiect cymunedol lleol.

“Dim ond Plaid Cymru sydd yn cynnig yr uchelgais sydd ei hangen i greu dyfodol tecach a fwy gwyrdd, ac i atal Reform UK a’i pholisïau a fyddai’n parhau i adael ein cymunedau at drugaredd newid hinsawdd a phrisiau ynni ansicr.”

Ychwanegodd Cefin Campbell,

“Ni all y dewis sy’n wynebu Cymru ar 7 Mai bod yn fwy gwahanol – mynd am nol gyda Reform UK, neu ddyfodol gobeithiol gyda Phlaid Cymru.

“Does dim byd yn cyfleu hyn fel uchelgais Plaid Cymru i ddatgloi potensial Cymru a chyrraedd annibyniaeth ynni, tra bod Reform yn gwneud yn glir eu bod yn gwadu newid hinsawdd.

“Mae eu haddewid i gael gwared a Net Sero yn beryglus ac anweithredol, fel y mae eu polisïau i ail-agor y pyllau glo ac ail-gychwyn y ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Dyw cynlluniau Reform ddim yn gwneud unrhyw synnwyr yn economaidd nac yn amgylcheddol.

“Ble mae Reform yn gwadu gwirioneddau gwyddonol sylfaenol ac yn ymroi i ffantasi economaidd, mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar y dyfodol – datgloi potensial ynni adnewyddadwy Cymru, creu mwy o swyddi gwyrdd da yn lleol, a chefnogi ein cymunedau.

“Mae gan Gymru’r potensial, ond am rhy hir, nid oedd gennym lywodraeth gyda’r uchelgais i wireddu’r potensial hynny.

“Mewn ychydig dros wythnos, gall bobl Cymru ddewis gobaith ac uchelgais er mwyn atal ymraniad Reform – gan bleidleisio am arweinyddiaeth Newydd i Gymru gyda Phlaid Cymru.”