Rhun ap Iorwerth fydd “llais Cymru” yn ystod y dadleuon a ddarlledir cyn yr etholiad, mae cyn Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud.

Cynrychiolodd Leanne Wood ei phlaid yn y dadleuon teledu Etholiad Cyffredinol cyntaf yn 2015 gan roi llwyfan digynsail i Blaid Cymru yng nghyfryngau’r wasg Brydeinig.

Defnyddiodd y dadleuon i ddadlau’r achos dros gyllido teg ac agenda gymdeithasol fwy blaengar i Gymru, gan ennill enw am herio arweinydd presennol Reform UK ac arweinydd UKIP ar y pryd, Nigel Farage, am godi bwganod am gleifion HIV o dramor.

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen at hyrwyddo gweledigaeth uchelgeisiol Plaid Cymru ar gyfer dyfodol Cymru ac at ddwyn Llafur a’r Torïaid i gyfrif am eu methiant hanesyddol i sicrhau cyllid teg i Gymru a chymryd pleidleiswyr Cymreig yn ganiataol am gyfnod rhy hir. Beirniadodd Rishi Sunak a Keir Starmer am "guddio o'r stiwdios teledu" drwy anfon cynrychiolwyr eraill i gymryd rhan yn y ddadl ar eu rhan.

Wrth siarad cyn y ddadl deledu saith arweinydd gyntaf yn Llundain ddydd Gwener 7 Mehefin, dywedodd Leanne Wood:

“Rhoddodd y dadleuon a ddarlledwyd cyn yr etholiad yn 2015 lwyfan digynsail i Blaid Cymru gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a rhoi i’n cenedl y ffocws y mae’n ei haeddu yng nghyfryngau’r DU.

“Roeddwn i’n falch o gymryd rhan yn y dadleuon hynny i wneud yr achos dros ariannu teg a chymdeithas fwy blaengar, a gwn mai Rhun fydd llais Cymru ar y llwyfan hwnnw yfory hefyd.

“Rwy’n gwybod y bydd Rhun yn defnyddio pob cyfle i osod gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru, gan herio 14 mlynedd o reolaeth drychinebus gan y Ceidwadwyr a dwyn Llafur i gyfrif am gymryd pleidleiswyr Cymru yn ganiataol.”

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth:

“Rwy’n edrych ymlaen I ddilyn ôl traed Arweinwyr Plaid Cymru yn cynrychioli buddiannau gorau Cymru yn ystod y dadleuon a ddarlledir ar y teledu.

“Rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo gweledigaeth Plaid Cymru o ddyfodol tecach, mwy uchelgeisiol i’n cenedl lle mae gan ein gwasanaethau cyhoeddus y cyllid sydd ei angen arnynt i roi’r gofal y maent yn ei haeddu i’n cymunedau.

"Mae'n anghredadwy bod Keir Starmer a Rishi Sunak yn teimlo eu bod nhw'n gallu dewis pryd i ymddangos ochr yn ochr ag arweinwyr eraill. Gallant guddio rhag y stiwdios teledu, ond ni allant guddio rhag record eu pleidiau o esgeuluso anghenion Cymru, a byddaf yn eu dwyn i gyfrif am hynny yn ystod y ddadl ddydd Gwener."