Wrth i Sioe Frenhinol Cymru ddychwelyd ar ôl seibiant o dair blynedd, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi neges yn ailddatgan eu cefnogaeth i sector amaethyddol Cymru

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Mabon ap Gwynfor AS

“Mae ffermwyr Cymru yn cael eu trin yn annheg – o’r mater byd-eang o newid yn yr hinsawdd ble mae ffermwyr yn unigryw agored i niwed, at faterion yn nes at adref, megis y galw am dir sy’n cynyddu’r pris, ac o ganlyniad yn gwthio ffermwyr ifanc allan o’r farchnad. Yn ogystal mae costau mewnbwn ar gyfer pethau fel gwrtaith a thanwydd, a diffyg cymorth gan San Steffan i leihau treth ar y tanwydd hwnnw – mae angen yn y sector i bobl sefyll drostynt ar hyn o bryd.”

Mae Plaid Cymru wedi siarad o’r blaen yn erbyn y ffenomenon o ‘greenwashing’ lle mae hapfasnachwyr rhyngwladol yn cymryd tir ffermio Cymru i wrthbwyso eu hôl troed carbon eu hunain.

Mae’r galw hwn am dir yn un o'r ffactorau sy'n codi pris tir yng Nghymru, a'r canlyniad yw bod ffermwyr ifanc sy’n newydd i'r sector yn cael eu prisio allan o'r farchnad, gan fod coed yn cymryd lle ffermydd.

Aeth Mr ap Gwynfor AS ymlaen i ddweud,

“Mae cymunedau gwledig Cymru yn rhan annatod o'n hunaniaeth fel cenedl, ac mae'n hanfodol bod cymunedau gwledig cynaliadwy yn cael eu creu, lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

“Mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyfraniad aruthrol y mae'r sector amaethyddol yn ei wneud i Gymru yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda ffermwyr Cymru yn eu nod o fod yn un o'r sectorau ffermio mwyaf cynaliadwy ar draws y byd.

“Rydym hefyd yn cydnabod y cysylltiad cryf rhwng dyfodol ein cymunedau gwledig a dyfodol yr iaith Gymraeg a byddwn yn brwydro i warchod enwau lleoedd Cymraeg sy'n rhan sylfaenol o’n cymunedau gwledig.

“Mae ein dull gweithredu bob amser yn un o gydweithrediad a chydweithredu, a dyma’r hyn yr ydym yn ei addo i’r sector amaethyddol fel y gallwn sicrhau newid er budd ein cymunedau gwledig ehangach, nid er anfantais iddynt.”