Plaid Cymru’n amlinellu strategaeth i fynd i’r afael â thlodi gwledig ac ysgogi twf gwledig

Ar drydydd diwrnod y Sioe Frenhinol (dydd Mercher 24 Gorffennaf), mae Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS a’r Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell AS, wedi amlinellu cynigion all fynd i’r afael â thlodi gwledig a hyrwyddo datblygu ardaloedd gwledig yng Nghymru.

 

Mae ymchwil gan Sefydliad Bevan yn dangos mai cymunedau gwledig sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng costau byw presennol: gan wynebu gwasgfa driphlyg oherwydd costau uchel, incwm isel a mynediad gwael at wasanaethau.

 

Yn aml, mae tlodi mewn ardaloedd gwledig yn cuddio mewn golwg – yn aml maen anodd adnabod cartrefi gwledig tlawd trwy ddulliau confensiynol o fesur tlodi, ac yn methu hawlio budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddyn nhw.

 

Mae’r cynlluniau a amlinellwyd gan Blaid Cymru yn cynnwys:

 

  1. Sefydlu Comisiynydd Tlodi Gwledig i osod a sicrhau bod targedau i fynd i’r afael â thlodi gwledig yn cael eu gosod a’u cyflawni, a bod holl bolisïau’r Llywodraeth yn mynd drwy ‘brawf fesur gwledig’.
  2. Gwella trafnidiaeth gymunedol yng nghefn gwlad Cymru, yn enwedig bysiau, a sicrhau bod pobl ifanc yn gallu teithio am ddim ar fysiau.
  3. Cynyddu tai fforddiadwy – adeiladu ar waith Plaid Cymru ar ail gartrefi, a chaniatáu mwy o hyblygrwydd yn y system gynllunio i ddod ag eiddo i mewn i’r farchnad tai fforddiadwy
  4. Cyflwyno cynlluniau effeithlonrwydd ynni gan gynnwys ôl-osod wedi'u teilwra ar gyfer cartrefi gwledig.
  5. Ehangu gofal plant am ddim a chyflwyno taliad plentyn tebyg i'r Alban.
  6. Ehangu argaeledd band eang trwy sefydlu cwmni band eang cenedlaethol.
  7. Ehangu'r cymorth busnes presennol a gynigir drwy raglen Arfor ar gyfer mentrau cymdeithasol gwledig, busnesau sy'n eiddo i'r gymuned, cwmnïau cydweithredol a phobl hunangyflogedig.

 

Wrth siarad am y gwaith y mae wedi’i arwain i ddatblygu strategaeth newydd Plaid Cymru ar fynd i’r afael â thlodi gwledig, dywedodd Cefin Campbell AS,

 

“Fe wyddom bod ein cymunedau gwledig mewn trafferthion – yn dioddef o effeithiau Brexit a Covid-19, etifeddiaeth llymder y Ceidwadwyr ynghŷd â methiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni strategaeth wirioneddol i fynd i’r afael â tlodi.

 

“Gwyddom fod tlodi gwledig yn her benodol o ran polisi. Ar draws ystod o feysydd polisi – trafnidiaeth, tai, ynni, gofal plant, digidol, cymorth busnes a lles – rydym yn galw am ymyriadau i dargedu lleihau tlodi gwledig.

 

“Yn hollbwysig, rydym yn galw am well prawf fesur gwledig ar draws yr holl feysydd polisi y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, ac am osod prawf fesur gwledig ar sail statudol, fel sydd wedi’i wneud yng Ngogledd Iwerddon.”

 

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

 

“Mae’r strategaeth yma, a ddatblygwyd ac a brofwyd trwy weithio gyda rhanddeiliaid, yn fynegiant o gred ac uchelgais Plaid Cymru ar gyfer cefn gwlad Cymru, ac o’n rôl fel hyrwyddwr dros ein cymunedau gwledig.

 

“Gan adeiladu ar ein hanes balch o gyflawni ar ran Cymru wledig, mae’r strategaeth yma’n cynnig llwybr newydd at ddatblygu cynaliadwy yn y cymunedau hynny: bargen newydd ar gyfer gweithwyr gwledig hunangyflogedig, pecyn newydd o gymorth busnes ar gyfer busnesau gwledig, a syniadau newydd ar ynni cymunedol, digidol a’r economi gydweithredol.

 

“Dyma’r math o weledigaeth ar gyfer cefn gwlad Cymru y mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i’w wireddu, tra bod ffraeo mewnol pleidiol yn dwyn sylw eraill.”

 

Gallwch ddarllen y ddogfen yma.