Plaid Cymru yn ceisio gorfodi San Steffan i orfodi San Steffan i wneud i’r Mesur Gwrth-Ffoaduriaid gyd-fynd â chynllun Cymru fel Cenedl Lloches

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan a llefarydd y Blaid ar Faterion Cartref, Liz Saville Roberts AS, heddiw (Mawrth 7 Rhagfyr) yn annog Llywodraeth y DG i gefnogi ei gwelliant fyddai’n gwneud i’r Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau  gyd-fynd â chynllun Cymru fel Cenedl Lloches.

Cyn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin, galwodd AS Dwyfor Meirionnydd am system lloches “seiliedig ar ddynoliaeth – nid gelyniaeth”.

Bydd y Mesur Ffiniau, sy’n dychwelyd i’r Senedd i’w drafod heddiw, yn troi’r DG yn un o’r gwledydd mwyaf gwrth-ffoaduriaid yn y byd. Bydd yn gwneud hyn trwy’r dulliau isod:

  • Camwahaniaethu yn erbyn ffoaduriaid ar sail sut y maent wedi cyrraedd y DG, gan ddwyn oddi ar lawer o ffoaduriaid hawliau megis aduno teuluoedd, cefnogi ac ymsefydlu ers tymor hir. Mae hyn yn groes i Gonfensiwn Ffoaduriaid 1951.
  • Cyflwyno cosbau eithafol i bobl sy’n ceisio lloches a phobl sy’n eu helpu i gyrraedd diogelwch.
  • Creu canolfannau cadw ar ddull Bae Guantanamo i geiswyr lloches, yn hytrach na chymunedau, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio cyfleusterau tramor.

Dywedodd AS Plaid Cymru fod y “Mesur llym yn gwneud cyff gwawd o’n dyhead yng Nghymru i ddod yn Genedl Lloches”, ac yn ceisio gwneud bywydau ceiswyr lloches mor “annifyr ag sydd modd”.

Byddai gwelliant Ms Saville Roberts yn mynnu bod Llywodraethau’r DG a Chymru yn cynhyrchu canllaw ar y cyd yn dweud sut y byddid yn arfer mesurau dan y Mesur Ffiniau mewn modd sy’n cyd-fynd â’r Cynllun Cenedl Lloches. Cyhoeddwyd y Cynllun gan Lywodraeth Cymru yn 2019, a’i gadarnhau gan Uwch-Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.

Meddai Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r Mesur llym hwn yn gwneud cyff gwawd o’n dyhead yng Nghymru i ddod yn Genedl Lloches. Ar waethaf tystiolaeth fod mwyafrif llethol y bobl sy’n croesi’r Sianel yn geiswyr lloches dilys, mae Priti Patel ar ymgyrch i wneud bywydau’r bobl hyn mor annifyr ag sydd modd.

“Ar ôl y marwolaethau erchyll yn y Sianel bythefnos yn ôl, mae’n warthus fod y Llywodraeth Dorïaidd hon yn parhau i ymosod ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches diamddiffyn. Yn awr yn fwy nag erioed, mae arnom angen system lloches sy’n seiliedig ar ddynoliaeth- nid gelyniaeth.

“Byddai fy ngwelliant yn gwneud yn siŵr y perchir ein dyhead i fod yn genedl groesawgar. Byddai’n gwneud yn siŵr na fyddai unrhyw lywodraeth yn San Steffan yn cael tanseilio ein hymdrechion i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gymhathu’n llawn i gymdeithas yng Nghymru.

“Rwy’n annog pob AS Cymreig heddiw i gefnogi fy ngwelliant.”