“Rhaid i ni ddefnyddio’r amrediad llawn o ddulliau sydd ar gael i gadw ein plant a’n pobl ifanc yn ddiogel” – Sian Gwenllian AS

Mae Plaid Cymru wedi adnewyddu ei galwad ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i gadw plant yn ddiogel mewn ysgolion, gan gynnwys awyru yn benodol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau yn hwyr neithiwr (dydd Mercher 25 Awst) ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi, ond nid yw'r canllawiau'n sôn am awyru.

Argymhellodd canllawiau SAGE Annibynnol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, y dylid defnyddio awyru ar unwaith mewn ysgolion, a galwodd adroddiad ar wahân am gronfa cymorth awyru.

Mae Llefarydd Addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, wedi mynegi ei “siom” am “betruster” y llywodraeth wrth fabwysiadu’r dull pwysig hwn i atal lledaeniad COVID ymhlith y boblogaeth sydd leiaf tebygol o gael eu brechu.

Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Addysg, Sian Gwenllian AS,

Er bod croeso i adnewyddu canllawiau ar gyfer ysgolion, mae’n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud defnydd da o gyfnod gwyliau’r haf i roi cynlluniau ar waith ar gyfer awyru priodol mewn ysgolion.

“Mae tystiolaeth wyddonol gynyddol yn awgrymu’r rôl enfawr y mae awyru’n ei chwarae o ran lleihau lledaeniad firysau yn yr aer fel covid-19; annog awyr iach i gylchredeg mewn mannau dan do yw un o’n dulliau allweddol o fynd i’r afael â COVID.

“Rydyn ni’n gwybod fod bod yn yr awyr agored yn lleihau’r risg yn sylweddol, felly pam mae’r llywodraeth yn petruso rhag defnyddio awyru i leihau’r broses o drosglwyddo mewn ysgolion? Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r amrediad llawn o ddulliau sydd ar gael i gadw plant yn ddiogel ac atal COVID rhag lledaenu ymhlith y boblogaeth sydd leiaf tebygol o gael eu brechu.”