Bydd dadleoli pobl ifanc o gymunedau o ganlyiad o ail gartrefi yn gwaethygu “os bydd y llywodraeth yn parhau i oedi a peidio gweithredu” mae Plaid yn rhybuddio  

Yng Ngwynedd, mae tua 40 y cant o dai sy'n mynd ar y farchnad bob blwyddyn bellach yn cael eu prynu fel ail gartrefi gan achosi cynnydd sylweddol ym mhrisiau tai 

Mae Llefarydd Plaid Cymru dros Dai a Chynllunio, Mabon ap Gwynfor AS wedi rhybuddio y bydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng ail cartrefi yn gadael mwy o bobl ifanc ledled Cymru wedi’u dadleoli o’u cymunedau. 

Mae’r gorddefnydd o eiddo fel ail gartrefi yn gwthio pobl leol allan o’r farchnad eiddo, gan roi pwysau annerbyniol ar wasanaethau lleol yn ystod y tymor brig, a gan arwain at drefi a phentrefi diffaith a hanner gwag yn ystod y gaeaf.  

Mae AS Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd a Llefarydd Tai, Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Julie James AS sy’n gyfrifol am dai yn Llywodraeth Cymru i weithredu yn syth ar y mater. 

Dywedodd Mr ap Gwynfor fod yn rhaid i’r llywodraeth ddarparu ‘tryloywder a manylder’ ar ba gamau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng, a disgrifiodd y sefyllfa fel ‘wedi cyrraedd argyfwng’. 

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, Llefarydd Plaid Cymru dros Dai a Chynllunio, 

“Mae sefyllfa ail gartrefi mewn cymunedau ledled Cymru wedi cyrraedd argyfwng. Dyma pam rydw i'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd â'r brys mwyaf." 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gweithredu ar ail gartrefi cyn, yn ystod ac ar ôl yr etholiad - mae angen tryloywder a manylion nawr ar beth fydd hyn. 

“Os bydd y llywodraeth yn parhau i oedi a peidio gweithredu, mae bygythiad y bydd yr argyfwng yn gadael yn ei sgil genhedlaeth goll o bobl ifanc sy’n cael eu gorfodi i adael eu milltir sgwâr oherwydd eu bod yn cael eu prisio allan o’r ardal lle cawsant eu geni a’u magu. 

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld ymyriadau uniongyrchol i liniaru’r argyfwng, megis newidiadau i gyfreithiau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi, cau’r bwlch sy’n caniatáu i berchnogion ail tai gofrestru eu heiddo fel “busnesau” er mwyn osgoi talu premiwm treth y cyngor, a cyflwyno reoliadau i dreblu'r tâl Treth Trafodiad Tir ar brynu ail eiddo. 

“Comisiynodd y llywodraeth Dr Simon Brooks i ymchwilio i’r mater a gwneud argymhellion. Mae angen i'r Llywodraeth ddod o hyd i ffordd o weithredu rhai neu'r holl argymhellion hyn ar frys. 

“Nid yw hyn wedi’i gyfyngu i ychydig o gymunedau anghysbell bell i ffwrdd. Mae'r argyfwng hwn yn cael sgil-effaith ar bob cymuned, ac felly mae o bwysigrwydd cenedlaethol. 

“Mae'n ddyled arnom i'r bobl ifanc yn y cymunedau hyn i ddatrys yr argyfwng hwn a chaniatáu iddynt aros yn yr ardal y maent yn ei galw'n gartref.”