"Hwb enfawr i ddemocratiaeth Cymru" - Plaid Cymru yn croesawu adroddiad allweddol ar ddiwygio'r Senedd wrth i'r Senedd gryfach symud gam yn nes
Bydd Senedd mwy a diwygiedig yn "hwb enfawr i ddemocratiaeth Cymru", yn ol Plaid Cymru.
Croesawodd llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad, Rhys ab Owen AS yr adroddiad gan Bwyllgor Diben Arbennig y Senedd ar ddiwygio'r Senedd sy'n cefnogi ehangu'r Senedd i 96 o aelodau drwy system bleidleisio gyfrannol gyda chwotâu rhywedd statudol, integredig.
Dywedodd Mr ab Owen y byddai Senedd sy’n "fwy modern, fwy amrywiol a fwy cynhwysol" yn gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well – yn gyferbyniad clir i lanast ac anhrefn San Steffan.
Mae Pwyllgor Diben Arbennig y Senedd ar Ddiwygio'r Senedd yn argymell:
- Bod diwygio'r Senedd yn cael ei roi ar waith erbyn etholiad nesaf y Senedd a drefnwyd yn 2026
- Ethol 96 o aelodau'r Senedd drwy restrau cyfrannol caeedig gyda seddi wedi'u dyrannu gan ddefnyddio fformiwla D'Hondt
- Cwotâu rhywedd statudol integredig - gyda darpariaethau i annog pob plaid wleidyddol i gyhoeddi strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant amlwg o leiaf 6 mis cyn etholiad y Senedd a drefnwyd
- Bod etholiad 2026 yn defnyddio'r 32 etholaeth San Steffan a gynigiwyd gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar ôl iddo gwblhau ei Arolwg Seneddol yn 2023 – ond na ddylai hyn fod yn gydffiniol yn awtomatig.
- Bod yr etholaethau hyn i'w paru i greu 16 o etholaethau aml-aelod newydd – a nodir nifer yr etholaethau yn y Senedd fel 16 mewn deddfwriaeth sylfaenol gyda phob etholaeth yn dychwelyd yr un nifer o Aelodau'r Senedd.
- Dylid cychwyn arolwg llawn o'r ffiniau yn ystod tymor y Senedd hwn, gyda'i argymhellion i ddod i rym o etholiad y Senedd yn 2031 – gyda'r ddeddfwriaeth yn cynnwys gofyniad i gynnal arolygon ffiniau llawn o bryd i'w gilydd, gyda darpariaethau priodol cyfyngedig ar gyfer arolygon interim os oes angen.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad, Rhys ab Owen AS,
"Mae Plaid Cymru yn croesawu'r adroddiad hwn ynghyd â'i argymhellion ac yn diolch i'r pwyllgor am eu gwaith. Bydd Senedd gryfach sydd â mwy o allu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled ein gwlad yn hwb enfawr i ddemocratiaeth Cymru.
"Mae STV yn parhau i fod yn bolisi Plaid Cymru. Rydym hefyd yn cydnabod nad oes gan yr un blaid yn y Senedd y mwyafrif o ddwy ran o dair sydd ei hangen i ddiwygio. Fel y noda'r adroddiad ei hun, yn y trafodaethau trawsbleidiol sydd wedi'u cynnal ar ddiwygio, cyflwynwyd STV - ochr yn ochr â rhestrau agored neu hyblyg, rhwng 90 a 100 o aelodau, deddfu ar gyfer cwotâu rhywedd a chyflwyno diwygiadau erbyn 2026 - fel ein blaenoriaethau allweddol. Rydym wrth ein bodd y bydd y mwyafrif yn cael eu cyflawni yn awr, ochr yn ochr â system bleidleisio gyfrannol.
"Mae Senedd sy'n fwy modern, yn fwy amrywiol, ac yn fwy ymatebol i anghenion pobl Cymru yn gam yn nes at gael ei gwireddu - gwrthgyferbyniad amlwg i anhrefn San Steffan. Mae Plaid Cymru yn falch iawn y bydd ein gweledigaeth a'n parodrwydd i gydweithio nawr yn gwneud i hyn ddigwydd – bron i ugain mlynedd ers cyhoeddi cynlluniau i ddiwygio'r Senedd am y tro cyntaf.