Gan Llyr Gruffydd AS, Arweinydd Gweithredol Plaid Cymru

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Golwg 29/05/23

 

Roedd y byd yn fyd gwhanol pan apeliodd Syr Ifan ab Owen Edwards yn rhifyn Ionawr 1922 o ‘Cymru’r Plant’ ar i bobl ifanc ymuno â mudiad newydd i gynnig cyfleoedd trwy’r Gymraeg.

Chwarae ‘tag’ nid TikTok oedd cyfrwng yr hamddena, gwaddol y ‘Welsh Not’ nid gobaith y miliwn o siaradwyr oedd cefnlen statws y Gymraeg, a doedd dim son am rew môr yr Arctig yn dadmer.

Ganrif a blwyddyn ers sefydlu’r mudiad hwnnw, bydd Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon unwaith eto’n lwyfan i ddathlu cyfraniad ieuenctid Cymru ac yn gyfle i bobl ifanc ddod ynghyd i drafod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Fel tad i bedwar o blant, gwn fod yr arddegau’n gallu bod yn gyfuniad o’r hapus a’r heriol – adegau o obaith di-ben-draw a baich y byd yn rhedeg gyfochrog.

Mae’n bwysicach nag erioed fod ystyriaethau sy’n ymwneud â’r genhedlaeth nesaf yn chwarae rhan ganolog ym mhenderfyniadau’r rhai sydd mewn grym.

Yng Nghymru mae gennym ni’r isadeiledd i flaenoriaethu anghenion yr ifanc, i ymateb i’r byd ôl-Covid ac i leddfu nifer o bryderon y to iau gan ddileu rhai yn gyfangwbl.

Y wlad hon ddangosodd y blaengaredd i sefydlu’r Comisiynydd Plant – ac mae gwledydd eraill y Deyrnas Unedig wedi dilyn yr esiampl. Mae’r Comisiynydd presennol fel ei rhagflaenydd yn gwneud gwaith gwych fel lladmerydd dros yr ifanc a’u hawliau.

Gan wneud y mwyaf o sgiliau, arbenigedd, a chylchoedd gorchwyl unigryw y Comisiynwyr a gan gymryd ysbrydoliaeth o gymal cyntaf arwyddair yr Urdd, mae cyfle gwirioneddol i’n Comisiynwyr – Plant, Iaith a Chenedlaethau’r Dyfodol – ddod at ei gilydd ‘dros Gymru’ a rhoi llais ein pobl ifanc wrth galon ein sgwrs genedlaethol.

Beth felly am lunio ‘Siarter Cymru Yfory’ - fframwaith i sicrhau fod Llywodraeth y dydd yn gweithredu ar yr hyn sy’n bwysig i bobl ifanc.

Gydag ymchwil YouGov yn dangos fod pobl ifanc yn teimlo’n ofnus (33%), yn drist (34%) neu’n anobeithiol (34%) am newid hinsawdd, gadewch i ni sicrhau fod ymateb i or-bryder amgylcheddol yn rhan fwy blaenllaw yn ein cwricwlwm.

Wrth i ymchwil gan Bwyllgor o’r Senedd rybuddio fod y targed o filiwn o siaradwyr mewn perygl oherwydd prinder athrawon sy’n medru’r Gymraeg, mae’n bryd mynnu mynediad cydradd i addysg cyfrwng Cymraeg a chynyddu cyfleoedd ôl 16.

Rhaid hefyd parhau i leihau rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl fel bod pawb yn cael apwyntiad amserol fel modd o helpu’r un o bob chwech o bobl ifanc yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis cyflwr iechyd meddwl.

Mae datrysiadau i nifer o’r materion yma yn cael eu datblygu gan Blaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Llywodraeth Cymru ac mae’n holl bwysig nad ydi Llywodraethau’r dyfodol yn dad-wneud y gwaith da sydd eisoes yn digwydd.

Dyma rai syniadau fyddai’n gonglfaen i Siarter teg, cynhwysol, a blaengar. Nid dim ond cyfres o egwyddorion, ond yn hytrach siarter o amcanion cenedlaethol penodol – boed yn hawl i ofal iechyd meddwl digonol, deddfu i warchod bioamrywiaeth, neu hawl i addysg Gymraeg o’r cynradd i’r cap graddio – byddai’n adeiladu ar waith Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol gyda nodau mesuradwy i sicrhau fod buddiannau a hawliau pobl ifanc yn cael eu gwarchod a’u hyrwyddo yn ddigamsyniol yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Trwy weithio â fforymau fel y Senedd Ieuenctid a chynulliad dinasyddion, gall swyddfeydd y Comisiynwyr hwyluso’r gwaith o gasglu barn a safbwyntiau pobl ifanc ledled Cymru – eu syniadau nhw, eu Siarter nhw.

Byddai’r pwyslais wedyn ar lywodraeth y dydd i ymgorffori dyheadau a dymuniadau’r genhedlaeth iau yn eu gwaith. Deddfu i’r dyfodol gyda’r dyfodol.

Rwyf eisoes wedi ceisio rhoi ychydig o hyn ar waith drwy gynnig gwelliannau i’r Bil Cwricwlwm gyda’r amcan o roi mwy o ffocws ar yr amgylchedd a gorbryder hinsawdd ond yn anffodus cawsant eu gwrthod gan bleidiau eraill yn y Senedd.

Mae gwneud hyn oll ‘Dros Gymru’ yn bwysig ond fel y dywed ail gymal arwyddair yr Urdd, mae gweithredu ‘Dros Gyd-ddyn’ yn bwysig hefyd.

Er mwyn ein pobl ifanc, rhaid cofio mae ein gweithredoedd ni fydd eu hetifeddiaeth nhw.

Felly wrth i ni ddathlu cyfraniad pobl ifanc Cymru i’n cymdeithas a’n cenedl, rwy’n annog y Comisiynydd Iaith, y Comisiynydd Plant a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddod a’u tair cenhadaeth ynghyd er mwyn sicrhau fod llais plant heddiw wrth galon y penderfyniadau sy’n llywio Cymru yfory.