Mae ‘angen buddsoddi o ddifrif’ yn isadeiledd Cymru ac ni allwn ‘barhau i golli allan’ - Plaid Cymru

 

Wrth i Lywodraeth y DU baratoi ei Hadolygiad Gwariant, mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Ben Lake AS, wedi galw arnynt i fynd i’r afael â’r “anghysondeb ac annhegwch o ran diffiniad prosiectau rheilffyrdd mawr”.

Yn ganolog i'w alwadau mae'r angen brys i gywiro camddosbarthiad HS2, ac yn fwy diweddar, y prosiect rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt – prosiectau sy'n parhau i olygu bod Cymru’n ar ei cholled o biliynau o bunnoedd mewn buddsoddiad, sy’n fawr ei angen ar Gymru.

Yn sgil adroddiadau y gallai Llywodraeth y DU gyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer rheilffyrdd Cymru yn rhan o’r Adolygiad Gwariant, mae Plaid Cymru wedi atgoffa Llafur eu bod, ar un adeg, yn gytûn bod dros £4 biliwn yn ddyledus i Lywodraeth Cymru mewn arian canlyniadol rheilffyrdd trwy fformiwla Barnett. 

Dywedodd Mr Lake y byddai unrhyw gynnydd mewn gwariant cyfalaf tuag at isadeiledd trafnidiaeth Cymru i’w “groesawu”, ond ei bod hefyd yn hanfodol i fynd i’r afael â’r gamdriniaeth o Gymru hefyd.

Er nad oes yr un filltir o drac HS2 na Phrosiect Rhydychen-Caergrawnt yn rhedeg drwy Gymru, a dim budd uniongyrchol i'n rhwydwaith rheilffyrdd, mae'r prosiectau wedi cael eu dynodi'n anghywir gan Drysorlys y DU fel cynlluniau "Lloegr a Chymru". Mae'r camgymeriad cyllidol hwn wedi rhwystro Cymru rhag derbyn arian canlyniadol Barnett - cyllid a fyddai fel arall wedi mynd i Lywodraeth Cymru pe bai'r ddau brosiect wedi'u dynodi'n gywir fel prosiectau i Loegr yn unig, fel sy'n wir am yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Mae Plaid Cymru felly yn galw am:

  • Ailddiffinio HS2 a Phrosiect Rhydychen-Caergrawnt fel prosiectau i Loegr yn unig, gan adlewyrchu'r anghyfiawnder a gydnabyddir yn eang tuag at Gymru;
  • O leiaf £4 biliwn mewn arian canlyniadol Barnett i Lywodraeth Cymru – yr arian y dylai Cymru fod wedi'i dderbyn pe bai HS2 a Phrosiect Rhydychen-Caergrawnt wedi'u diffinio’n gywir;
  • Cydnabyddiaeth y dylai trafnidiaeth fod yn fater i Lywodraeth Cymru, gan sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru ac yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru, nid parhad o’r dull gweithredu o’r brig i lawr o San Steffan.

 

Ar hyn o bryd, mae Cymru gyda’r isaf o ran faint caiff ei fuddsoddi i reilffyrdd y pen ar draws  y DU. Dywedodd Mr Lake y gallai’r biliynau sy’n ddyledus i ni gael ei ddefnyddio i foderneiddio ein rhwydwaith, gwella cysylltedd, creu swyddi o ansawdd uchel, ac ysgogi twf economaidd.

 

Dywedodd Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:

"Mae angen buddsoddi o ddifrif yn isadeiledd Cymru, a gallai ein rhwydwaith rheilffyrdd elwa'n sylweddol o gyllid ychwanegol. Ychydig llai na blwyddyn sydd ers i Lywodraeth Cymru a'r DU gydnabod bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru, yn hanesyddol, wedi profi tanariannu sylweddol, felly mae'n anodd derbyn dynodiad HS2 a Phrosiect Rhydychen-Caergrawnt fel prosiectau 'Lloegr a Chymru'.

“Nid yw'r un brosiect wedi'i gynllunio i fod o fudd i gymunedau Cymru. Mae eu dynodiad fel prosiectau 'Lloegr a Chymru' yn gwbl annheg, gan y bydd yn golygu bod Cymru ar ei cholled o arian canlyniadol y gellai gael ei ddefnyddio i fuddsoddi yn ein systemau trafnidiaeth ein hunain. Mae Llywodraeth y DU wedi dynodi prosiectau rheilffyrdd mawr yn Lloegr yn flaenorol, fel Cross Rail yn Llundain, fel prosiectau sy'n elwa Lloegr yn unig, a phe bai'n ailddiffinio HS2 a'r prosiect Rhydychen-Caergrawnt yn yr un modd,byddai Cymru mewn sefyllfa i ennill biliynau mewn arian canlyniadol.

“Byddai unrhyw gynnydd mewn buddsoddiad cyfalaf yn isadeiledd Cymru i'w groesawu, ond mae’n yr un mor bwysig mynd i’r afael â’r anghysondeb a’r annhegwch mewn dynodiad prosiectau rheilffyrdd mawr i sicrhau nad yw Cymru’n parhau i golli allan. Mae’r Adolygiad Gwariant yn cynnig cyfle i Lywodraeth y DU wneud iawn am hyn.”